Llygoden bengron y dŵr, Arvicola amphibius, yw’r fwyaf o’i rhywogaeth ym Mhrydain yn ogystal â bod yn rhywogaeth gwlyptirol eiconig. Mae'n byw ar hyd afonydd, nentydd a ffosydd, o amgylch pyllau a llynnoedd ac o fewn corsydd, corslwyni ac ardaloedd o rostir gwlyb.
Mae’n bryderus eu bod wedi dioddef y dirywiad mwyaf difrifol a chyflymaf o unrhyw famal gwyllt ym Mhrydain ac wedi diflannu o tua 94% o leoliadau lle'r oeddent unwaith yn gyffredin. Mae'r ffactorau sydd wedi cyfrannu at y dirywiad dramatig hwn yn cynnwys colli cynefin trwy ddwysáu arferion ffermio, trefoli a datblygiadau. Mae’r minc Americanaidd yn arbennig yn beryglus i’r llygoden bengron y dŵr am ei fod yn ei hela. Daeth y minc i Brydain yn y 1920au ar gyfer ffermydd ffwr, a dianc i’r gwyllt yn fuan wedi hynny. Mae mincod benywaidd yn ddigon bach i wasgu’i mewn i dyllau llygod pengrwn a gwared cytrefi cyfan.
Ar ôl absenoldeb o flynyddoedd lawer, ailgyflwynwyd llygod pengrwn y dŵr i Wastadeddau Gwent yn 2012/13. Rhyddhaodd Ymddiriedolaeth Natur Gwent, gan weithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a'r RSPB, dros 200 o lygod pengrwn y dŵr wedi eu magu’n arbennig, yng ngwarchodfa natur Cors Magwyr. Ers hynny, maent wedi lledaenu tua'r gorllewin ar draws y Gwastadeddau gan ddefnyddio'r rhwydwaith o ffosydd a rhewynau draenio, gan gyrraedd cyn belled â Gwlyptiroedd Casnewydd. Mae'r ailgyflwyno llwyddiannus hwn wedi ei gynorthwyo drwy reoli ffosydd yn ofalus gan Gyfoeth Naturiol Cymru a rheolaeth weithredol o niferoedd mincod.
Yn Saesneg, weithiau gelwir ‘water voles’ yn ‘water rats’ (llygoden bengron y dŵr oedd ‘Ratty’ yn ‘The Wind in the Willows’ gan Kenneth Grahame), er nad ydynt yn perthyn yn agos i lygod mawr ac maen hawdd eu gwahaniaethu gydag ychydig o ymarfer. Mae gan lygoden bengron y dŵr wyneb crwn gyda thrwyn bychan pwt, clustiau bach, ffwr brown-ddu ac ychydig o flew ar ei gynffon. Gallent dyfu hyd at 20cm, gyda chynffon 10cm o hyd, a phwyso hyd at 300g. Mae gan lygoden fawr wyneb hir, gyda chlustiau mawr binc, ffwr llwyd-frown a chynffon hir, binc, di-flew.
Llysieuwyr yw’r llygod pengrwn y dŵr yn bennaf ac yn bwyta tua 200 o wahanol fathau o blanhigion, gan amlaf hesg, brwyn a glaswellt, ac mae angen iddynt fwyta tua 80% o bwysau eu corff bob dydd. Nid ydynt yn gaeafgysgu, felly yn ystod yr hydref a'r gaeaf maent yn bwydo ar wreiddiau, ffrwythau a rhisgl coed. Yn achlysurol iawn maent yn bwyta pryfed ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill.
Mae llygod pengrwn y dŵr yn byw’n rhannol ar y tir a rhannol mewn dŵr ac fel rheol ni fyddant yn crwydro mwy nag ychydig fetrau i ffwrdd o ddŵr. Maent yn creu tyllau ar hyd llethrau serth, yn aml gydag allanfa ger ymyl y dŵr er mwyn gallu dianc yn gyflym. Maint pêl tenis yw mynedfa’r twll, gyda mannau o laswellt byr wedi tocio’n daclus o’i flaen. Mae’r modd y mae’r llygod pengrwn yn bwydo a thwrio yn helpu i greu micro-gynefinoedd ar gyfer planhigion ac anifeiliaid eraill
Fel anifeiliaid cynhenid eraill, tebyg i foch daear, mae llygod pengrwn y dŵr yn creu geudai, lle maent yn gwneud eu baw gwyrdd neu du maint ‘tic-tac’. Defnyddir y mannau tŷ bach hyn i nodi ymyl eu tiriogaeth a gellir eu defnyddio i amcangyfrif nifer y llygod pengrwn mewn ardal; gall pedwar i bum geudy gyfateb i un llygoden bengron fenywaidd sy'n magu.
Yn arferol, mae llygod pengrwn y dŵr yn magu rhwng misoedd Ebrill a Hydref, pan fydd yr amodau fwyaf ffafriol, ac yn geni dwy neu dair torllwyth, pob un yn cynnwys hyd at wyth o rai ifanc. Anaml y bydd oedolion yn byw yn hwy na dwy flynedd ac mewn gaeafau caled, gall poblogaethau ostwng 70%. Yn ogystal â’r bywyd byr yma, mae llygod pengrwn y dŵr yn brae i ystod eang o anifeiliaid cynhenid, gan gynnwys dyfrgwn, tylluanod, cudyll coch, crehyrod a phenhwyaid.
Gwylio Gwyllt
A hoffech chi ddysgu mwy am fywyd gwyllt Lefelau Byw? Yna ymunwch â ni am gyfres o ddigwyddiadau hyfforddi i'ch helpu i fagu'r hyder, y sgiliau a'r wybodaeth i'ch galluogi i arolygu a chofnodi bywyd gwyllt.Ble i’w gweld
Gwarchodfa natur Cors Magwyr SoDdGA
Beth i chwilio amdano…
Efallai y byddwch ddigon ffodus i weld yr oedolion yn nofio neu'n bwydo ar lystyfiant wrth ymyl y dŵr. Fel arall, chwiliwch am:
Pentyrrau o laswellt a choesau planhigion wedi eu cnoi ar ongl o 45 gradd.
Rafftiau bwydo - pentyrrau bach o lystyfiant wedi eu torri, yn ddigon mawr i'r llygod pengrwn eistedd arno.
‘Lawnt’ ger tyllau, lle mae'r glaswellt wedi ei dorri’n eithriadol o fyr gan y llygod pengrwn drwy bori.
Mannau tŷ bach llygod pengrwn y dŵr gyda baw nodedig gwyrdd neu du (maint a siâp ‘tic-tac’).
Mynedfa tyllau crwn, maint pêl tenis mewn llethrau ger y dŵr.