Ni allai Gwastadeddau Gwent fodoli heb y morglawdd.
Mae’r Gwastadeddau tua 7m ar gyfartaledd uwchlaw lefel y môr gymedrig, ychydig yn uwch ar yr arfordir ond yn is tuag at ymyl y mewndir (5m). Aber Afon Hafren sydd â’r ail amrediad llanw uchaf yn y byd, sef 15m. Golyga hyn y byddai rhan fwyaf o'r Gwastadeddau yn boddi o dan sawl metr o ddŵr ddwywaith y dydd ar lanw uchel.
Mae'n debygol mai milwyr Rhufeinig adeiladwyd rhannau cyntaf y morglawdd o gwmpas 100 OC, ond mae'n debygol ei fod wedi bod yn llawer is ac yn llai cywrain na'r wal bresennol (roedd lefelau'r môr yng nghyfnod y Rhufeiniaid tua 1.5m yn is).
Mae mynachod Priordy Allteuryn yn cael y clod am ailadeiladu ac ymestyn amddiffynfeydd Rhufeinig y môr, dechrau’r Oesoedd Canol. Ni wyddom union linell y morglawdd hwn ond efallai yr oedd rhwng 350m a 600m ymhellach allan yn yr aber. Dros y canrifoedd i ddod, wrth i'r môr ymdrechu i adennill y tir, cafodd y wal ei esgeuluso, ei ailadeiladu, ei addasu a'i symud tuag at y mewndir lawer gwaith. Bellach mae llawer o'r tirlun Rhufeinig a chanoloesol wedi'i gladdu o dan fwd yr aber; mae chwedl leol yn adrodd bod yr eglwys wreiddiol yn Porton wedi'i foddi gan y môr.
Mae llinell y wal bresennol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol. Fe'i hailadeiladwyd o 1954 hyd 1974 ac yn 35km o hyd. Yn dilyn storm fawr yn 1990, ymgymerwyd â chynllun o godi a chryfhau'r wal.
Oriau agor
Mae’r llwybr cerdded ar hyd top y morglawdd ar agor trwy’r flwyddyn. Mae Ystafell De’r Morglawdd ar agor 10:00yb – 4:00yp.Sut i gyrraedd yno
AR DRAFNIDIAETH GYHOEDDUS
AR FEIC
YN Y CAR
Wyddoch chi…?
Daw’r enw ‘Goldcliff’ o fwyn o'r enw mica sydd i'w weld yn y clogwyn, ac yn disgleirio fel aur yng ngolau'r haul. Mae’r enw yn dyddio o leiaf 1188, pan gyfeiriodd yr hanesydd Gerallt Gymro at “Gouldclyffe” fel “llachar gyda disgleirdeb rhyfeddol”.