Cawod o Ddrudwy

Ewch i lawr i Wlyptiroedd Casnewydd ychydig cyn iddi nosi yn yr Hydref neu'r Gaeaf a gallech weld un o’r arddangosfeydd mwyaf ysblennydd natur – cawod o ddrudwy.

Cawod o Ddrudwy, Gwlyptiroedd Casnewydd

Wrth i'r haul fachlud, daw heidiau o ddrudwy at ei gilydd i glwydo am y nos yn y corslwyni. Cyn iddynt swatio am y noson, mae'r adar yn ffurfio cwmwl troellog, yn gwibio ac yn plymio gyda’i gilydd. Mi allai haid o un neu ddau gant o adar gynyddu'n gyflym i filoedd, ac yna degau neu gannoedd o filoedd, wrth i fwy a mwy o adar ymuno â'r gawod, wedi'u denu gan yr arddangosfa o'r awyr. Y gawod fwyaf a gofnodwyd erioed yn Shapwick Heath yng Ngwlad yr Haf, oedd tua 6 miliwn o adar!

Er gwaethaf y niferoedd enfawr, mae'r adar yn llwyddo i hedfan heb daro ar ei gilydd. Mae pob drudwy yn dilyn y chwe aderyn sy'n hedfan agosaf ato. Wrth i un newid cyfeiriad, felly mae'r lleill o'i gwmpas yn dilyn yr un trywydd, ac mae'r symudiad yn crychu drwy'r cwmwl o adar, gan greu patrymau cymhleth a chyfnewidiol.

Ar ôl sawl munud, daw'r arddangosfa syfrdanol i ben yn sydyn wrth i'r drudwy ddisgyn yn sydyn i'r corslwyni i glwydo.

Ond pam maen nhw'n perfformio'r sioe syfrdanol hon? Credir bod yr arddangosfa o'r awyr yn gweithredu fel arwyddbost enfawr, gan ddenu'r holl ddrudwy yn yr ardal i heidio gyda'i gilydd. Unwaith gyda'i gilydd, mae'r llu chwyrlïol o adar yn ei gwneud hi'n anodd i ysglyfaethwyr, fel hebog tramor, dargedu adar unigol. Yna mae'r adar yn clwydo gyda'i gilydd er mwyn diogelwch a chynhesrwydd.

Ar un adeg, roedd cawod o ddrudwy yn olygfa gyffredin dros lawer o ddinasoedd y DU, ond yn bryderus, mae niferoedd yr aderyn deniadol hwn wedi disgyn dros y blynyddoedd diwethaf.


 

Ymweld â Gwlyptiroedd Casnewydd

Gwarchodfa Natur Gwlyptiroedd Cenedlaethol Casnewydd, RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd, Trefonnen, NP18 2BZ.
OS Grid Ref: ST 334 834

Gwefan