Yn 1878, darganfuwyd carreg wedi'i arysgrifio o gyfnod Rhufeinig ger morglawdd Allteuryn, a elwir yn 'Carreg Allteuryn'.
Mae'r arysgrif ar y garreg galch bychan yn darllen "COH I, C STATORI, M...XIMI, P X...XIII S", sydd wedi'i gyfieithu fel "O'r fintai gyntaf o Statorius Maximus (adeiladwyd) 33 1/2 cam". Mae'n debygol ei fod yn cofnodi adeiladu naill ai rhan o forglawdd neu ffos ddraenio gan filwyr Rhufeinig o’r Fintai gyntaf o’r Ail Leng Awgwstaidd yng Nghaerllion, a arweinir gan Ganwriad Statorius Maximus.
Yn 43 OC, cafodd Prydain ei oresgyn gan y Rhufeiniaid. Erbyn 48 OC, roedd y llengoedd wedi cyrraedd ffin Cymru ac yn dechrau trechu’r llwythau Cymreig.
Yn 75 OC, ar ôl ymgyrch anodd, cafodd y llwyth blaenaf yn Ne Cymru, y Silures, eu gorchfygu gan y cadfridog Rhufeinig Julius Frontinus. Er mwyn cadarnhau eu rheolaeth ar y rhanbarth, fe adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yn Isca (Caerllion fodern), un o ddim ond tri gwersyll llengol parhaol ym Mhrydain. Roedd y gaer yn gartref i 5,000 o filwyr ac ynddo roedd baracs, gweithdai, ysguboriau, baddondai, harbwr ac amffitheatr fawr.
Y gaer oedd pencadlys yr Ail Leng Awgwstaidd ac fe'i defnyddiwyd am tua 200 mlynedd hyd at 300 OC, pan gafodd ei adael fel canolfan filwrol.
Ar ryw adeg o gwmpas 100 OC, dechreuodd y Rhufeiniaid amgáu a draenio'r Gwastadeddau, yn debygol er mwyn creu cynefin i alluogi gwartheg a’u ceffylau i bori drwy'r flwyddyn ar y glaswelltiroedd gwlyb, ffrwythlon. Adeiladodd peirianwyr milwrol Rhufeinig argloddiau ar hyd ymylon traethau, gan gysylltu ardaloedd o dir uwch, a chreu rhwydwaith o ffosydd i ddraenio'r tir.
Arferiad cyffredin oedd i filwyr Rhufeinig gofnodi eu hymdrechion adeiladu trwy arysgrifio carreg a elwir yn faen canwriadol a fyddai'n cael ei osod wrth ymyl (neu yn yr achos o adeilad, o fewn) eu hadeiladau.