Yn eistedd ar ymyl Gwastadeddau Gwent, rhwng ehangder Aber Afon Hafren, ceg Afon Wysg a dinas Casnewydd, gorweddai Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.
Mae'r warchodfa 438 hectar yn ymestyn o geg Afon Wysg i'r dwyrain ar hyd yr arfordir i Allteuryn. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd lefel isel, gan gynnwys glaswelltir gwlyb, corslwyni, morfeydd a lagwnau heli, sy'n ei wneud yn un o'r safleoedd gorau yn y wlad i wylio adar (a llawer o fywyd gwyllt arall hefyd).
Mae yna rwydwaith saith cilometr o lwybrau cerdded yn ymestyn o Ganolfan Ymwelwyr y Gwlyptiroedd, gan gynnwys pontŵn sy’n arnofio sydd yn croesi un o'r lagwnau i Oleudy Dwyrain Wysg. Mae gan bump o'r corslwyni sgriniau gwylio ar draws y sianeli dŵr dwfn; mae gan un ohonynt blatfform gwylio wedi'i godi, ac mae gan un guddfan adar wedi'i chodi. Mae tri llwybr cerdded wedi'u harwyddo ynghyd â llwybr beicio. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn arwain trwy'r warchodfa.
Agorodd y warchodfa yn 2000 ac fe'i hadeiladwyd i liniaru colli cynefinoedd bywyd gwyllt ar ôl cwblhau morglawdd Bae Caerdydd. Cyn creu'r warchodfa, roedd y tir yn rhan o Orsaf Bŵer Aber-wysg gerllaw a arferai losgi glo, ac yn dir diffaith wedi'i orchuddio â lludw. Yn 2008, cyhoeddwyd y warchodfa yn Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG).
Rheolir y warchodfa gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a Chyngor Dinas Casnewydd.
Canolfan Addysg ac Ymwelwyr yr RSPB
Agorodd Canolfan Ymwelwyr ac Addysg Amgylcheddol yr RSPB yn 2007 ac mae'n cynnwys siop, caffi, cyfleusterau tai bach, ystafelloedd addysg, man picnic awyr agored a man chwarae. Mae gan y ganolfan raglen o weithgareddau, gan gynnwys teithiau cerdded tywys, drwy gydol y flwyddyn.
Beth i'w weld
Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn fwyaf adnabyddus am ei amrywiaeth anhygoel o adar gwlyptir, gan gynnwys y titw barfog, crëyr bach a’r cambig. Wrth i chi archwilio'r warchodfa, gwrandewch am sŵn dwfn nodedig aderyn y bwn, aderyn swil sy’n anodd ei weld ac yn aelod o deulu'r crëyr. Mae'r traethellau llaid eang ar hyd glannau’r aber yn denu niferoedd enfawr o adar, megis pibydd y mawn, pibydd coesgoch, y gylfinir, piod y môr a chornchwiglod.
Yn ystod yr hydref a'r gaeaf, mae miloedd o ddrudwy yn clwydo yn y corslwyni, gan greu arddangosiadau ysblennydd yn yr awyr. Cadwch lygad am adar ysglyfaethus yn ceisio cipio adar o'r cwmwl troellog yma, megis yr hebog tramor, y cudyll bach a bod y gwerni.
Yn ystod y gwanwyn a'r haf, mae'r warchodfa’n fyw gyda gloÿnnod byw, gweision y neidr a gwenyn, gan gynnwys un o wenyn mwyaf prin y Deyrnas Unedig, y gardwenyn fain.
Ar yr arfordir, dim ond taith gerdded fer o'r ganolfan ymwelwyr mae Goleudy Dwyrain Wysg. Adeiladwyd y goleudy yn 1893, ac mae'n un o ddau sy'n marcio mynedfa Afon Wysg; mae Goleudy Gorllewin Wysg wedi'i ddigomisiynu ac mae bellach yn Wely a Brecwast. Yn wreiddiol yn ymddangos yn uwch nag y mae heddiw, claddwyd coesau’r goleudy yn raddol o dan ludw mân o Orsaf Bŵer Aber-wysg. Cafodd ei drawsnewid o olau nwy i drydan yn 1972 ac mae'n dal i weithredu heddiw.
OS Grid Ref: ST 334 834
Gwefan
Oriau agor
Mae Canolfan Ymwelwyr ac Addysg Amgylcheddol yr RSPB ar agor ac yn rhad ac am ddim o 9yb tan 5yp, saith diwrnod yr wythnos drwy'r flwyddyn (ac eithrio Dydd Nadolig).Mae'r maes parcio ar agor rhwng 9yb a 5yp.
Cost parcio car yw £3. Am ddim i aelodau'r RSPB.
Sut i gyrraedd yno
Ar y trên
Yr orsaf reilffordd agosaf yw Casnewydd (tua 5 milltir o'r warchodfa).
Ar y Bws
Mae bws rhif 63 o ganol dinas Casnewydd sy’n mynd i'r ganolfan ymwelwyr, yn wasanaeth sy'n ymateb i'r galw. Am fanylion archebu cysylltwch â Bws Casnewydd ar 01633 211202.
Ar feic
Mae gan lwybr 4 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans gangen i Wlyptiroedd Casnewydd yn defnyddio ffyrdd presennol. Mae gan y maes parcio man cadw beic dan do. Mae beicio ar y warchodfa wedi'i gyfyngu i lwybr penodol.
Ar y ffordd
Ymunwch â'r A48 naill ai ar gyffordd 24 neu 28 o'r M4. Dilynwch yr A48 nes i chi ddod i gylchfan Parc Manwerthu Spytty. Ymunwch â A4810 Queensway Meadows. Wrth y gylchfan gyntaf cymerwch y drydedd allanfa i Meadows Road a dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown i'r warchodfa.
Map Trysor y Cof
Ymweld ag archwilio saith lleoliad ar Wastadeddau Gwent gan ddefnyddio ein mapiau trysor y cof sy'n cynnwys gwybodaeth am beth i’w weld yno a gweithgareddau i helpu'ch dosbarth neu'ch teulu i ddysgu mwy am bob lle.