SGDd Lefelau Byw 

Ynghyd â thrigolion lleol, haneswyr, archeolegwyr, archifwyr a phobl sy'n chwilfrydig am hanes, rydyn ni'n creu map ar-lein yn arddangos  rhyfeddodau dyddiau a fu yng Ngwastadeddau Gwent.

Daw holl hanes, straeon a darganfyddiadau o’r Gwastadeddau at ei gilydd o fewn Syllwr Map Hanesyddol y Lefelau Byw, ac mae’n barod i chi ei archwilio.

Gallwch chwilio mapiau, rhai hanesyddol a rhai modern, a chloddio mewn i'r holl wybodaeth sy’n cael eu casglu a’u gofalu gan ein gwirfoddolwyr.

Er mwyn i'r map hwn barhau i dyfu, mae angen gwirfoddolwyr arno i ddod ag ef yn fyw. Trwy gymryd agwedd cyfrannu torfol a chymunedol tuag at fapio hanes, archeoleg a threftadaeth y rhanbarth, gall pobl sy'n byw yn yr ardal ailgysylltu â gorffennol cyfoethog a chwedlonol y tirlun, a dod â rhywfaint o sylw haeddiannol iawn i Wastadeddau Gwent o ymhellach i ffwrdd.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes? Wrth eich bodd gyda mapiau? Mae yna lawer o gyfleoedd i gymryd rhan a helpu i wneud y map hwn yn adnodd amhrisiadwy sy'n darlunio hanes anhygoel Gwastadeddau Gwent.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, ewch i livinglevelsgis.org.uk

Viewer_shot-1-768x542.jpg