Mae’r gardwenynen fain (Bombus sylvarum) yn un o wenyn mwyaf prin y Deyrnas Unedig. Mae niferoedd wedi dirywio’n sydyn dros y ganrif ddiwethaf ac mae bellach ond i’w gael mewn 7 ardal yn Ne Cymru a Lloegr, gan gynnwys Gwastadeddau Gwent.
Mae'r gwenyn hyn yn felyn-llwyd golau gyda rhesen du nodweddiadol o flew ar y thoracs rhwng yr adenydd. Mae ganddo gynffon coch-oren gyda sŵn sïo â thraw uchel nodweddiadol. Mae’r frenhines tua 17mm o hyd, tra bod y gweithwyr a'r gwrywod yn llawer llai.
Mae brenhines y gardwenyn fain yn deffro o’i gaeafgwsg ym mis Mai, yn hwyrach na rhywogaethau eraill. Adeiladir nythod ar y ddaear, neu ychydig islaw’r wyneb mewn llystyfiant swmpus, tebyg i dwmpath o laswelltir. Bydd y frenhines yn cynhyrchu cytref fechan o tua 50-70 o weithwyr, ac yn arferol fe’u gwelir o ganol Mehefin ymlaen, yn bwydo ar amrywiaeth o blanhigion megis danadlen gwyn, briwlys y gwrych, meillionen goch ac ytbysen y ddôl.
Tuag at ddiwedd yr haf, mae’r frenhines yn newid i gynhyrchu gwrywod a breninesau newydd. Ar ôl paru, mae’r breninesau yma’n dod o hyd i fannau ar gyfer gaeafgysgu, lle maent yn aros tan y flwyddyn ganlynol, tra bod yr hen frenhines a'i chytref yn dechrau marw.
Mae gardwenynen fain yn dibynnu ar laswelltiroedd sy’n gyfoethog o amrywiaeth o rywogaethau o flodau gwyllt a safleoedd nythu heb eu tarfu; dau fath o amgylchedd sydd wedi lleihau'n ddifrifol yn yr ardal yn ystod yr 20fed ganrif. Ystyrir ei fod yn rhywogaeth â blaenoriaeth ar gyfer cadwraeth yng Nghymru a Lloegr.
Gallwch helpu i ddiogelu'r gardwenynen fain a'r peillwyr eraill ar y Gwastadeddau trwy wirfoddoli gyda'n prosiect ‘Peillio'r Gwastadeddau’.