Mae'r plasty mawreddog hwn yn un o dai y 17eg ganrif fwyaf pwysig yn hanesyddol ym Mhrydain, cartref y teulu Morgan ers dros 500 o flynyddoedd.
Wedi'i leoli mewn parc hardd 90 erw, Tŷ Tredegar yw un o'r enghreifftiau gorau o blasty o oes Siarl II o'r 17eg ganrif ym Mhrydain.
Wedi'i leoli ar gyrion Casnewydd, roedd y tŷ yn gartref i deulu Morgan, Arglwyddi Tredegar yn hwyrach, am dros 500 o flynyddoedd. Mae'r tŷ presennol yn dyddio o 1672 a chymerodd le adeilad carreg cynnar, a gellir gweld rhannau ohono o fewn adeiladwaith y plasty brics a ddilynodd.
Roedd y teulu Morgan yn brif dirfeddianwyr, yn Aelodau Seneddol dros Aberhonddu a Brycheiniog, ac effeithiwyd datblygiad dinas Casnewydd yn enfawr ganddynt fel prif borthladd a chanolfan ddiwydiannol. Fe wnaethant fuddsoddi'n drwm yn y diwydiannau glo a haearn, rheilffyrdd a chamlesi a thir, gan gronni ffortiwn enfawr. Rhoddodd y teulu hefyd dir i Gorfforaeth Casnewydd ar gyfer Parc Belle Vue, Ysbyty Brenhinol Gwent a Maes Athletau Casnewydd.
Ar ôl marwolaeth Evan Morgan, 2il Is-iarll Tredegar yn 1949, gwerthodd y teulu Morgan y tŷ a'r tir. Ar ôl cyfnod byr fel ysgol i ferched, fe’u prynwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd yn 1974. Yr adeg yno, fe'i disgrifiwyd fel ‘decaying shell’. Cafodd y tŷ ei adfer gan y cyngor, ac ers 2012, mae wedi cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r tŷ ar agor i ymwelwyr bob dydd a gellir ymweld â’r parcdir am ddim.
Mae'r tŷ wedi cael ei adfer i fod yn debyg iawn i’w ogoniant blaenorol, gyda rhai o'r dodrefn gwreiddiol wedi eu hail-brynu a'u dychwelyd i'r tŷ, ac eraill wedi eu disodli. Mae'r Parlwr Newydd wedi'i ddodrefnu mewn arddull Fictoraidd fel ystafell fwyta. Yn y Neuadd Newydd mae amrywiaeth o bortreadau o'r 17eg ganrif o frenhinoedd a breninesau. Mae'r cerfiadau yn yr Ystafell Frown yn cynnwys bwystfilod, dail ac wynebau rhyfedd. Mae’r ystafell wely yn cynnwys gwely o 1720au, ac mae arddangosfa islaw’r grisiau gyda chegin, storfa bwyd a diod, ystafell meistres tŷ a neuadd gweision.
Mae'r tŷ ar agor i ymwelwyr bob dydd a gellir ymweld â’r parcdir am ddim.
Mwy o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am Dŷ Tredegar, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Oriau agor
Mae'r Tŷ ar agor o 16eg o Chwefror 2019. Mae'r Parc ar agor bob dydd, drwy gydol y flwyddyn, o doriad gwawr i'r cyfnos.Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Sut i gyrraedd yno
Ar drafnidiaeth gyhoeddus
Ar feic
Yn y car
Map Trysor y Cof
Ymweld ag archwilio saith lleoliad ar Wastadeddau Gwent gan ddefnyddio ein mapiau trysor y cof sy'n cynnwys gwybodaeth am beth i’w weld yno a gweithgareddau i helpu'ch dosbarth neu'ch teulu i ddysgu mwy am bob lle.