Ar ôl absenoldeb o tua 400 o flynyddoedd, mae garanod (Grus grus) yn nythu unwaith eto ar y Gwastadeddau.
Ar un adeg, roedd yr adar godidog hyn yn olygfa gyffredin mewn gwlyptiroedd ledled y DU. Yn anffodus, roeddent hefyd yn boblogaidd ar blatiau mewn gloddestau canoloesol; yn 1465, darparodd Archesgob Caerefrog 204 garan wedi rhostio. Yn y diwedd, o ganlyniad i hela â cholli eu cynefin ar wlyptiroedd, diflannodd y garanod yn gyfan gwbl yn ystod y 1600au.
Yn 1979, cafodd tri aderyn ymfudol eu chwythu oddi ar eu llwybr a chyrraedd Norfolk. Ers hynny, mae rhaglen ailgyflwyno lwyddiannus wedi codi’r niferoedd i tua 160 o adar.
Ar draws Aber Hafren ar Wastadeddau Gwlad yr Haf, rhyddhawyd 93 o aranod yng Ngwarchodfa Gorllewin Sedgemoor yr RSPB rhwng 2010 a 2014, fel rhan o’r Great Crane Project. Yn y pen draw, hedfanodd dau o'r adar hyn, o'r enw Lofty a Gibble, ar draws yr Afon Hafren. Yn 2016, magwyd y pâr cyw o'r enw Garan.
Mae gan aranod hanes maith ar Wastadeddau Gwent gan fynd yn ôl miloedd o flynyddoedd. Mae olion traed garanod, ynghyd ag adar dŵr eraill, wedi eu cadw yn y mwd ar y blaendraeth yn Allteuryn ac yn dyddio tua 5000 CC. Darganfuwyd esgyrn garanod wrth gloddio ffynnon Rufeinig yng Nghaerllion. Roedd marciau cigyddiaeth clir ar yr esgyrn hyn, a gwyddom fod garanod yn hoff bryd i Rufeiniaid cyfoethog. Darganfuwyd gemwaith jasper amuled coch bychain ym maddondai caer Caerllion sy’n ymddangos fod dyluniad o aran arno.
Cadwch lygad allan am aranod cyffredin o ddechrau'r gwanwyn hyd at ddiwedd yr haf. Mae'r adar yn llwyd, gyda phen du a gwyn a choron goch. Maent yn adar tal, yn sefyll rhwng 1 a 1.3m (3-4 troedfedd), gyda hyd adenydd o hyd at 2.4m (bron yn 8 troedfedd). Fel arfer, fe’u gwelir yn bwydo mewn caeau, lle maent yn bwyta hadau, gwreiddiau, pryfed, malwod a mwydod.
Mae garanod yn adnabyddus am eu dawnsio carwriaethol rhagorol, sy'n cynnwys siglo lan a lawr, ymgrymu a phirwétio, ynghyd ag amryw o alwadau nodedig. Er bod garanod yn paru a’i gilydd am nifer o flynyddoedd, maent yn dawnsio’r ddawns garwriaethol yma bob Gwanwyn.
Garan (Mike Langham, RSPB-images.com)
Dolenni
Ffeithiau Garanod - RSPB