Dolydd Great Traston SoDdGA

Mae gwarchodfa natur Dolydd Great Traston yn enghraifft o gors pori, math traddodiadol o dirlun ar y Gwastadeddau.

Mae'r dolydd gwlyb, ynghyd â rhewynau cysylltiedig, a ffosydd, yn darparu cynefin gwych ar gyfer amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. I gydnabod hyn, cyhoeddwyd y warchodfa yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Mae'r caeau yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion. Mewn ardaloedd mwy llaith, edrychwch am lafnlys bach, cegiden-y-dŵr fanddail, brwyn a hesg. Ar y tir sychach, edrychwch am y gribell felen, tegeirian-y-gors deheuol ac ytbysen feinddail. Mae gan y safle hefyd gynefin da ar gyfer ystod eang o adar, fel bras y cyrs a thelor Cetti. Yn ystod yr haf, cadwch lygad am weision y neidr, gan gynnwys ymerawdwyr, phicellwyr tinddu a picellwyr praff, a gloÿnnod byw, fel y gweirlöyn cleisiog nodweddiadol. Mae'r warchodfa hefyd yn gartref i un o wenyn mwyaf prin y DU, y gardwenyn fain

Mae llwybr cerdded o amgylch y warchodfa (30 munud), gan ddechrau o'r maes parcio bach, ac mae safle yn cael ei groesi gan Lwybr Arfordir Cymru.

Cwmni gwarchod Eastman Chemical sy'n berchen ar y warchodfa ac fe'i rheolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Edrychwch am…


Pye Corner, Casnewydd, Gwent.
OS Grid Ref: ST 346 843

Gwefan

Oriau agor

Ar agor bob amser

Sut i gyrraedd yno

Ar drafnidiaeth gyhoeddus

Google maps


Ar feic

Google maps


Yn y car

Google maps