“Mae'n gymdeithas wastraffus.”

- Tim Rooney, ffarier (Maerun)

Tim Rooney (Nanette Hepburn)

Wedi'i fagu a chael addysg ym Maerun, mae Tim Rooney yn cyfaddef ei hun, nad oedd byth yn hapus mewn dosbarth. “Doeddwn i ddim yn ryw hoff iawn o’r ysgol, ond bob amser yn frwdfrydig am geffylau.”

Nid yw'n syndod o ystyried cefndir ei deulu ar y Gwastadeddau. “Yn y dyddiau hynny,” meddai Tim, “byddai gan bob fferm geffyl pwynt-i-bwynt”, ac roedd meistri hela lleol fel yr Arglwydd Tredegar yn dibynnu ar gyflenwad da o geffylau. Roedd Gustavas, tad-cu Tim, yn werthwr ceffylau ac yn gwerthu ceffylau i'r fyddin. “Roedd yn dal i farchogaeth yn ei saithdegau.” Yn y cyfamser roedd tad Tim ‘Guvo’, cyn filwr a ffermwr Maerun, yn marchogaeth tua 70 o enillwyr yn pwynt-i-bwynt.
Dechreuodd Tim fusnes pedoli yn 1972 pan nad oedd llawer o ffariers ar gael. Nid oedd prinder gwaith. “Wnaethon ni ddim mynd allan i bedoli: daeth llawer o geffylau hela i’r efail.” Hefyd, byddai offer llaw gweithwyr y cyngor yn cael hogi neu atgyweirio yno. “Dim mecaneiddio bryd hynny. Nid ydyn nhw'n atgyweirio pethau bellach.” Ar un achlysur cyrhaeddodd y Sipsi Tom Price mewn fan fach. “Yn y cefn roedd merlen Shetland!”

Ond nawr, meddai, mae traffig yn atal perchnogion i farchogaeth eu ceffylau i'r efail. “Rydyn ni'n mynd allan i bedoli bron pob ceffyl: mae'n gweddu’n well i ni oherwydd bod y ceffylau yn dawelach yn eu hamgylchedd eu hunain.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Mae rhai pethau werth mwy nag arian.”

- Martin Morgan, Pysgodfa Treftadaeth Rhwydi Gafl y Garreg Ddu (Porthsgiwed)

Martin Morgan (Nanette Hepburn)

Lle mae afon hiraf Prydain, yr Hafren, yn cwrdd â’r môr, mae yna bedwar pysgodfa, eglura’r pysgotwr oes Martin Morgan: yr Wysg, Gwy, Aber Hafren a’r Garreg Ddu, safle’r pysgodfeydd rhwydi sân a gafl olaf.

Mae’r dyfroedd gwyllt a pheryglus hyn wedi denu pysgotwr ymroddedig, gyda thaid Martin yn eu plith. Yn enwog am ei gampau casglu wyau gwylanod ar glogwyni Cas-gwent, cafodd y pysgotwr ‘Nester’ William Morgan nod afon wedi’i enwi ar ei ôl. “Dim ond tua 18 modfedd o uchder yw Craig Nester, ond roedd Nester yn eithaf bach!”
Yna roedd y ddau frawd a oedd yn cario arch eu tad i eglwys Porthsgiwed pan gododd pysgodyn mewn pwll eog cyfagos. “Edrychodd Bob ar Pete, edrychodd Pete ar Bob. Yna rhedodd Pete yn ôl i'r tŷ, nôl ei ddillad pysgota a rhwyd a chasglu'r pysgod!”

Wrth bysgota'r aber mae Martin wedi darganfod peli canon o longddrylliad a basgedi pysgota canoloesol, a elwir yn kypes neu putts, wedi'u claddu yng nghlai yr aber. Mae wedi bod yn dyst i’r olaf o’r putchers, “basgedi helyg a chyll siâp corn wedi’u gosod yn wynebu’r llanw trai am eog,” llongddrylliad The John a drawodd y llawr ar Greigiau Gruggy y 1942, a llond lle o forloi a llamhidyddion.

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Fe ddechreuon ni ddod o hyd i ddeunydd yn y morglawdd ar yr ochr tuag at y tir.”

- Bob Trett, curadur amgueddfa wedi ymddeol (Casnewydd)

Bob Trett (Emma Drabble)

Mae’r Hafren yn un o sianeli mordwyol pwysicaf y byd, a hynny ers yr Oes Efydd.

Mae’r Gwastadeddau yn “ardal hynod gymhleth,” esboniodd cyn-guradur Amgueddfa Casnewydd ac achubwr Llong Casnewydd, Bob Trett. “Mae'r aber wedi ei wneud o haenau o fawn a llifwaddod neu glai, ac mae pob llanw'n gosod haenau ychwanegol o fwd.” Weithiau bydd storm neu lanw sy’n codi’n donnau yn sgwrio’r haenau hyn gan ddatgelu tystiolaeth o'r gorffennol. Gyda chymorth canfyddwyr metel lleol, mae Bob wedi cofnodi rhai o ddarganfyddiadau mwyaf cyffrous yr 20fed ganrif ar y Gwastadeddau. Roedd pentref o'r Oes Haearn yn Goldcliff Pil, a ger Magor Pil, ffordd danddwr hynafol. (Cafodd ei enwi fel Llwybr Upton er anrhydedd i’r cyn-weithiwr dur a drodd yn archeolegydd, Derek Upton.)

Darganfuwyd rhannau o grefftau o'r Oes Efydd ynghyd â chwch Barland, sy'n dyddio o oes y Rhufeiniaid; Llong Casnewydd enwog o'r 15fed ganrif a chwch camlas 200 mlwydd oed sydd bron yn gyflawn. Maen nhw hyd yn oed wedi dod o hyd i Spitfire o'r Ail Ryfel Byd.

“Ar ôl dechrau gyda bron ddim byd, ry’n ni wedi gorffen gyda chasgliad pwysig. Ac mae'n anhygoel beth ry’ch chi'n ei ddarganfod allan yno: darganfu llywydd Ymddiriedolaeth Natur Gwent asgwrn hir enfawr. Pan gawsom ni ganlyniadau’n ôl, asgwrn coes jiráff oedd e!”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Cefais fy magu yn Iwtopia.”

- Arthur Thomas a'i wraig Anne, ffermwr (Maerun)

Arthur Thomas (Emma Drabble)

Mae Arthur, a anwyd yn Llaneirwg, yn cofio sut roedd ei bentref bach (“ro’dd e’n dwt iawn”) ar un adeg gyda phum tafarn gan gynnwys y White Hart, Fox and Hounds, Star Inn a’r Bluebell. Ond y dolydd llaeth a wnaeth y lle’n arbennig: “Mae'r glaswellt yn tyfu'n rhyfeddol.”

Arweiniodd y porfeydd cyfoethog hyn at y Gwastadeddau yn gwasanaethu fel llaethdy Caerdydd a chyn iddo ef ac Anne ymgymryd â'u fferm eu hunain, helpodd Arthur ei dad, Walters i ddosbarthu llaeth ar ferlen a throl o'i fferm, Hendre Isaf, i Laneirwg a thu hwnt i Rymni a’r Rhath. Aeth Walters ymlaen i berchenogi fan Raleigh tair olwyn a hyd yn oed adeiladu ei dŷ ei hun yn 1935 “o elw’r llaeth”.

Gadawodd Arthur, ar ôl gwasanaethu gyda'r RAF ar ryfel atomig, a phrynodd ef ag Anne eu fferm eu hunain. Yr oedd wedi dysgu sut i ffermio ei hun, a phan ddaeth yn fater o atgyweirio llwyni, yr oedd mewn penbleth. “Do’n i erioed wedi gosod llwyni felly mi wnes i stopio a siarad â hen ddyn crintachlyd yn gosod llwyn.

“A’r peth nesaf, fe ddaeth i’r drws cefn: ‘Rydw i yma i weld os oes gennych chi swydd i mi.’” Arhosodd Evans y gosodwr llwyni gyda theulu’r Thomas nes iddo ymddeol.

“Fe wnaethon adnewyddu’r fferm honno. Gwnaethon ni'r holl ffensys, y waliau: gwych. Cefais addysg wych oddi ar y gŵr bonheddig hwn. Mae arnaf ddyled fawr iddo. ”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Roedd sŵn a bywiogrwydd i waith dur Llanwern.”

- Bob Dowsell, peiriannydd

Bob Dowsell (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Bob Dowsell

Mae tair cenhedlaeth o deulu Dowsell wedi rhoi amser yng ngwaith dur Llanwern a Bob yw'r olaf o'r llinell. “Roedd fy nhad-cu Charlie Dowsell yn wyliwr nos i lawr yno a gyrrodd fy nhad, pan ymddeolodd o’r RAF, y lorïau siâl.”

Defnyddiwyd siâl i adeiladu sylfeini’r gwaith dur ac i gladdu pedwar cilomedr a hanner o’r Gwastadeddau o dan fetr o graig. Yn blentyn deg oed, arferai Bob ymweld â'r gwaith dur. Tra bod ei dad yn sgwrsio gyda'i ffrindiau, roedd yn crwydro i weld dur yn cael ei greu. “Ro’n i’n gwneud fy ffordd i fyny ar y landins ac yna’n gwylio'r ffatri. Gwych!”

Ymunodd Bob â'r gwaith dur ar ôl cyfnod gyda Black Clawson. Llanwern oedd, meddai, “y ffatri dur mwyaf soffistigedig yn y byd. Un tro roedd gennym ni 15,000 o bobl yn gweithio yno a chymaint y tu allan i'r ffatri, yn cyflenwi deunyddiau. "

Pan ddaeth y gwaith dur i ben ymunodd Bob â thîm digomisiynu Llanwern. “Am bum mlynedd ro’n i’n gweithio i ddymchwel yr hyn ro’n i wedi’i fwynhau ers 20 mlynedd.

Nid oedd yn ddiweddglo hapus. “Rwy’n teimlo’n drist. Bydd mwg a stêm yn codi o'r gwaith. . . roedd hi’n fywiog yno. Nawr? Mae'n dref ddiffaith.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Roedd gan bron bob teulu rywun a aeth i’r môr.”

- Edward Watts, MBE DL (Casnewydd)

Edward Watts (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Edward Watts

Mae Edward Watts yn gadeirydd yn y Genhadaeth i Forwyr yn nociau Casnewydd, hafan ddiogel i forwyr o bob cwr o'r byd. Mae ganddo gysylltiadau teuluol â'r môr.

“Fe es i mewn i longau, ond ar y tir. Aeth fy nhad i'r môr, aeth fy nhad-cu i'r môr. Yn… Pill, neu Pillgwenlli os y’ch chi am ei alw wrth ei enw cywir, roedd gan bron bob teulu rywun a aeth i'r môr o fewn eu teulu. Roedd yn rhan o fywyd. ”

“Rydw i wedi bod yma dros hanner can mlynedd. Yn y gorffennol diweddar, roedd y dociau'n llawn, roedd yn lle prysur gyda chychod yn dod i mewn o bob cwr. Oherwydd bod gennych chi lo, mwyn haearn, dur, oherwydd roedd Llanwern yn aruthrol o brysur. Felly, roedd Casnewydd yn borthladd mawr a phwysig iawn. Felly roedd pobl yma o bob cwr o'r byd. Mae'n ardal doc, ac felly roedd yn ardal amlddiwylliannol ymhell cyn iddi fod yn twee i'w galw'n amlddiwylliannol. Edrychwch arna i. Daw fy mam-gu o Gernyw a fy nhad-cu o America.’

“Un tro, byddai gennym ni hyd at 100 o forwyr i mewn yma yn y Genhadaeth mewn noswaith, ond hefyd byddech chi'n arfer cael croesawferched yn dod i lawr ac yn dawnsio i'r morwyr. A’r dyddiau hyn mae pobl yn mynd ho-ho, wyddoch chi, ond doedd hi ddim - roedd hi’n eithaf…diniwed! Bydden nhw’n dod i ddawnsio i'r morwyr, byddai eu tacsi yn dod am hanner awr wedi naw ac yn mynd â nhw adref! A byddai'r merched hŷn o'r eglwys yn dod i lawr ac yn eu hebrwng! Wyddoch chi, roedd yn eitha’ hen ffasiwn.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Mae’r cyfan wedi newid nawr.”

- Gordon a Linda Shears, ffermwyr (Llansanffraid Gwynllŵg)

Gordon and Linda Shears (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Gordon a Linda Shears

Cafodd yr Ail Ryfel Byd effaith fawr ar Fferm Cherry Orchard yn Llansanffraid Gwynllŵg.

Un diwrnod hedfanodd awyren ragchwilio Luftwaffe yn isel dros y ffermdy: “Fe wnes i chwifio at y peilot!” meddai Gordon. Dro arall cwympodd ffrwydryn tir, gan rwystro'r lôn. Gyrrodd tryciau milwrol ar y morglawdd, gan dywallt llen fwg allan i guddio’r dociau rhag bomwyr y gelyn wrth i filwyr yr Unol Daleithiau orymdeithio heibio, yn dychwelyd yn ôl i'r gwersyll yn Nhŷ Tredegar. Roedd ysbail rhyfel yn cynnwys llwyau cegin a ollyngwyd ym  mwyd y moch, bwledi gwag o'r maes tanio cyfagos, a pharasiwtiau sidan bach o dargedau ymarfer milwrol.

Mae Gordon wedi byw yn Fferm Cherry Orchard ers i’w dad William, cyn-filwr wedi ei anafu o’r Rhyfel Byd Cyntaf, symud yma gyda’i wraig Beatrice yn 1934. Dysgodd Gordon sut i doi tas gwair, suit i weithio eu ceffylau cart, Blossom, Flower, Diamond a Bonnie, a sut i dynnu buwch yn hanner boddi o'r ffosydd. (Goroesodd y bwystfil y profiad caled.)

Mae’n cofio rhuthro trwy lifogydd ar fws deulawr, gwylio hen ddyn yn pysgota am lyswennod yn defnyddio ymbarél fel rhwyd, a’r busnes o fyw o dan lefel y môr: “Yn y nos fe allech chi glywed y môr,” meddai Linda. “Mae wedi newid llawer.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Yn yr hen ddyddiau fe allech chi weld y gorwel!"

- Howard Keyte (Porton)

Howard Keyte (Emma Drabble)

Mae bwthyn Howard’s ychydig lathenni o’r morglawdd. “Pan ry’ch chi’n eistedd yma ar lanw uchel ar ddiwrnod garw, mae'r llanw tua 10 troedfedd uwch eich pennau, ond ry’n ni'n ceisio peidio â meddwl am hynny! Ry’ch chi'n dod i arfer ag ef dros y blynyddoedd, mae'n llawer mwy diogel nawr nag yr arferai fod. Fe wnaethon nhw lawer yn y chwedegau i'w wella ond fe allech chi weld y gorwel yn yr hen ddyddiau. Pe byddai llanw uchel da yn dod drosodd ac yn golchi'r banc, byddai'n mynd trwy'r gegin ac yna allan trwy'r drws ffrynt!”

Roedd ei rieni, Charles & Evelyn yn byw drws nesaf yn Tŷ Porton lle cafodd ei fagu. “Daeth fy nhad-cu yma i Porton yn gyntaf yn 1906 ond yna symudodd fy nhad i fyny o Whitson i ofalu amdano. Roedd dad yn saer coed a saer olwynion yn Whitson yn y dyddiau hynny.”

Yn byw mor agos at y morglawdd, bu tair cenhedlaeth Kytes yn gweithio ar y ‘ranks pysgota yn Porton a oedd unwaith yn ymestyn allan i'r aber ac yn dal eog gwerthfawr: “Roedd tri ‘rank’ yno, roedd un tua 300 llath i fyny, un arall tua milltir allan yn y sianel, hwnnw oedd Y Garreg Ddu…roedd hwnnw'n waith caled...ac un yn y Redwig. Pan oedd y llanw allan bydden ni’n gwagio'r basgedi ac yn casglu'r eog a'u cario mewn sachau dros ein hysgwyddau. Yna bydden ni’n mynd â nhw i'r bysgodfa yn Allteuryn. Byddai’r pysgod yn cael eu hanfon i farchnad Billingsgate yn Llundain. Ond mae'r cyfan wedi diflannu nawr.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Fe dreulion ni hanner ein bywyd ar y Rhostiroedd.”

- Iris Theobald ac Ivy James, plant y rheilffordd (Rogiet)

Iris Theobald and Ivy James (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Ivy, Terry ac Iris

Symudodd George a Fanny Kibbey o Swydd Gaerwrangon i weithio ar Reilffordd y Great Western. Fel y mae’r ferch Iris Theobald yn cofio: “Roedd gan bron bob teulu ddyn yn gweithio ar y rheilffordd.” Roedd gan Iris bedair chwaer: Ivy, Olive, May a Rose. Mae Ivy (James) yn cofio'r teulu'n derbyn glo rhad. “Byddai'r rheilffordd yn dympio tunnell ar y lôn a byddai'n rhaid i ni ei rhawio i'r stordy glo.”

Gyrrodd eu tad beiriannau stêm ar ‘double homes’ (aros i ffwrdd am un noson) ac wrth gefn mewn argyfwng - “byddai galwr yn curo’r drws unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos i’w godi.” Yn y cyfamser, roedd y Trên Brenhinol weithiau'n aros yn agos i Dwnnel Hafren ger Gorsaf Porthsgiwed. “Fe ddywedon nhw ei fod yn gyfrinach, ond ro’n ni i gyd yn gwybod.”

Byddai'r chwiorydd y rheilffordd yn crwydro'r Gwastadeddau. Iris: “Roedd y caeau yn llawn blodau gwyllt yn unig: treulion ni hanner ein hoes ar y Rhostiroedd. A chasglu cocos rhwng y llanw - roedd rhaid bod yn ofalus – byddai’r llanw'n dod i mewn yn gyflym”, ac efallai gwerth ceiniog o hufen iâ mewn gwydr ar ddydd Sul “wedi'i rannu oherwydd doedd dim arian bryd hynny”.

“Ro’n ni i lawr yn y rhostiroedd, yn gwneud tŷ yn y coed, yn dilyn y cŵn hela a’r cotiau coch, neu’n sgwrsio gyda’r Sipsiwn gyda’u ceffylau brown a gwyn a’u carafanau hen ffasiwn.” Pan ddaeth y rhyfel, roedd gwaith arfau ar gael, gwneud gorchuddion blacowt ar gyfer priflampau, ac os oeddech chi'n lwcus, cael dawnsio gyda milwyr Americanaidd. Meddai Ivy, yr oedd “ddeg gwaith yn well nag y mae nawr.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Lefelwr ydw i.”

- John Southall, Arweinydd Tîm Draenio Tir, CNC (Coedcernyw)

John Southall (Emma Drabble)

Mae'r Gwastadeddau yn unigryw. Ac nid oes unman yn debyg iddo yng ngweddill y wlad, meddai John Southall, Arweinydd Tîm Draenio Tir o Ardaloedd Draenio Mewnol CNC.

Mae John yn blentyn y Gwastadeddau, a dyfodd i fyny yng Nghoedcernyw, ac sydd bellach yn gweithio i atal y tir rhag llithro o dan y môr: “Yr unig reswm nad yw'r lle hwn o dan ddŵr yw oherwydd y gwaith ry’n ni'n ei wneud, gan gynnal y rhwydwaith o ffosydd a rhewynau a sianeli cyffredin.”

Mae tirfeddianwyr yn gyfrifol o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 am gynnal a chadw Llanalan, Winter’s Sewers, Earthen Pit, Well Reen, Saltsbarn, Wallsend, Mireland Pil a’r llu o sianeli eraill sy’n croesi’r tir hwn. Gwaith CNC yw helpu i sicrhau bod y dŵr yn llifo'n rhwydd trwy ei 169 o lifddorau.

“Yr hyn sy’n arbennig am ein system ddraenio yw bod y cyfan yn cael ei wneud trwy ddisgyrchiant,” eglura John. “Nid yw’n swydd hawdd. Yn y gaeaf, gallai'r dŵr lifo un ffordd, yn yr haf y ffordd arall. Fe allai llifddor wedi disgyn i mewn, tebyg i Lôn Pentcarn, Dyffryn, achosi i rewyn filltiroedd i ffwrdd yn Llanbedr Gwynllŵg sychu’n gyfan gwbl.”

Mae John yn goruchwylio’r busnes o dorri gwair, y defnydd o fwd, carthu, dad-siltio a ‘keeching’ (torri gwair, dad-siltio a charthu ar unwaith) mewn cylch o saith mlynedd sydd, hyd yma, wedi atal llifogydd y Gwastadeddau. Mae hynny'n golygu cadw'r sianeli yn “berffaith gytbwys”...a chyfarch unrhyw grëyr glas â gwaedd ddynwaredol draddodiadol o Frank! Frank!

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Doedd gennym ni ddim byd ond roedden ni’n hapus."

- Kath Johnson, merch fferm

Kath Johnson (Emma Drabble)

Mae Kath Johnson yn paentio llun graffig o fywyd ar y Gwastadeddau: “Roedd yn fwy o gymuned bryd hynny, yn doedd. Roeddech chi’n adnabod pawb a welsoch chi.”

Arweiniodd ei theulu fodolaeth gwneud-y-tro-a-thrwsio ynghyd â danteithion annisgwyl fel gwrando ar ruo llewod yn y nos. “Roedd gan Mrs Maybury Sw Whitson. Roedd hi'n ddynes hyfryd. Pe bai anifail yn marw ar y fferm, fe’i rhoddodd i’r llewod hynny. ”

Pan basiodd yr arholiad mynediad i Ysgol Ramadeg Cas-gwent, teithiodd Kath i'r ysgol mewn fan stoc cymydog. “Rhoddodd Mr Jones feinciau yng nghefn y fan, oherwydd ei fod yn gyrru lloi i’r farchnad ynddo hefyd”.

Daeth argyfwng teuluol ag anlwc i'w huchelgeisiau. “Ro’n i eisiau bod yn blismones, ond cafodd Dad drawiad ar y galon felly gadewais yr ysgol yn 16 oed ac rydw i wedi bod ar y fferm byth ers hynny.” Nid yw’n difaru dim, gan gofio nosweithiau teuluol yn chwarae cardiau yng ngolau’r lamp Tilly, diwrnod golchi dyddiau Llun a nosweithiau bath y Sul, “fi yn gyntaf, yna fy mrodyr, yna ewythr, Dad ac yn olaf Mam.”

Roedd y tir yn cael ei reoli â llaw yn bennaf, gan gribinio'r rhewynau, impio rhosod gardd ar wrychoedd gyda raffia a chlai, a dal llyswennod â pholion ffa fel gwiail pysgota. “Sut alla ddweud? Doedd gennym ni ddim byd, ond roedden ni’n hapus.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â’r hanes ers dros ugain mlynedd.”

- Marjorie Neal, hanesydd lleol a gwraig fferm (Tredelerch)

Marjorie Neal (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Marjorie Neal

Mae byw ar y Gwastadeddau wedi rhoi cipolwg i orffennol yr ardal i Marjorie Neal. Fel archifydd y grŵp hanes lleol, mae hi wedi archwilio gorffennol ei theulu ei hun. “Rwy’n ffodus iawn oherwydd mae canghennau o fy nheulu wedi bod yn Nhredelerch ers blynyddoedd.”

Mae teuluoedd ffermio yn byw bywydau ynysig - fel plentyn “doedd gen i ddim ffrindiau yn agos” - ond fe wnaeth hi’r gorau o bethau, helpu i botelu llaeth y fferm, meistroli Fergie ei thad wrth wneud gwair, (“Rwy’n cofio gyrru’r tractor yn 8 oed”), neu wylio tonnau’n torri ar y lynches y tu hwnt i’r morglawdd.

Daeth rhyfel â Merched Byddin y Tir i’r fferm ac Americanwyr i redeg Storfeydd Cludiant Môr Tredelerch: “Roedd yn storio nwyddau o America a nwyddau a meirwon - cyrff - a gymerwyd yn ôl.”
Roedd gwrando ar yr Ugain Uchaf ar Radio Luxembourg (a chael ei dwrdio amdano gan ei thad-cu a'i mam-gu) yn gymorth i leddfu'r unigedd nes i Lanbedr Gwynllŵg agor clwb ieuenctid. “Roeddwn i’n arfer mynd i lawr yno ar fy meic cwpl o nosweithiau’r wythnos.”

Helpodd 60 mlynedd ar fferm deuluol i ddod o hyd i enwau caeau a ffosydd a fyddai wedi diflannu, (Floker, Rhossoag ​​Fawr a Search Light - “roedd yna chwilolau ar y cae hwnnw yn ystod y rhyfel”), a thystiolaeth o feddiannaeth 2,000 o flynyddoedd yn ôl. “Mae gennym ni gasgliad o grochenwaith Rhufeinig wedi ei ddarganfod ar y blaendraeth.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Byddaf yn gwneud unrhyw beth i fod yn yr awyr agored.”

- Paul Cawley, tyddynnwr (Gwndy)

Paul Cawley (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Paul Cawley

Mae Paul Cawley yn ‘Wastadeddwr’ trydedd genhedlaeth. “Nid wyf erioed wedi colli cysylltiad â’r Rhostiroedd,” eglura Paul. “Roedd fy nhad-yng-nghyfraith, er iddo weithio yn y gwaith dur am gyfnod, hefyd yn gweithio ar fferm i fyny yng Nghastell Pencoed.” Mae Paul wedi byw yn nhyddyn y teulu ger Magwyr ers y 1960au.

Mae ef a'i wraig, Beverly, yn caru bywyd ar y Gwastadeddau. Mae’r ddau yn dwyn i gof y busnes peryglus o bori gwartheg rhwng y llanw ar Ynys Denny, allan yn yr aber. “Byddech chi’n cerdded y gwartheg allan ac yna aros yno gyda nhw am 12 awr!” eglura Paul.
Mae’n trin yr Hafren gyda pharch, yn enwedig pan mae allan yn gwirfoddoli gyda Wildlife Warriors Cors Magwyr. “Mae gennym ni’r ail lanw cyflymaf yn y byd. Os ydych chi mewn ardal llanw, edrychwch ar y llinell fach ddu ar y gorwel. Os bydd y llinell yno’n cynyddu mewn cwpl o funudau, rhedwch – mae’r llanw ar y ffordd yn ôl. ”

Fel ciper, mae Paul Cawley yn credu bod y lobi saethu yn dod â buddion sylweddol i natur leol (“mae yna fwy o fywyd gwyllt ar saethau wedi eu gwarchod gan giperiaid nag ar warchodfeydd natur”) ac mae ei waith wedi dod ag ef i gysylltiad â'r bywyd gwyllt lleol o ddyfrgwn, ysgyfarnogod, crehyrod, cigfrain a bwncathod i'r gornchwiglen sy’n prysur brinhau.

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Roedd fy nhad yn garcharor rhyfel Eidalaidd.”

- Mike Mazzoleni, cyn-weithiwr dur Llanwern (Whitson)

Mike Mazzoleni (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Mike Mazzoleni

“Roedd fy nhad yn garcharor rhyfel Eidalaidd a daethon nhw ag ef drosodd i Lantarnam, gwersyll carcharorion rhyfel Eidalaidd mawr ar ôl cael ei ddal yn rhywle Ewrop. Bob dydd byddai'r carcharorion yn cael eu dyrannu i ffermydd yn yr ardal hon. Ac ar ôl sawl ymweliad â Court Farm yma yn Whitson, fe benderfynon nhw ei gadw. Felly ni ddychwelodd i'r Eidal. Dyma pryd y gwnaeth o gyfarfod â fy mam, yn y ddawns leol i lawr yn y Farmer’s Arms yn Allteuryn, a dyna sut y des i i fod yn Whitson heddiw. ”

Dilynodd Mike yn ôl troed ei dad trwy hefyd weithio yn Court Farm, Whitson yn ddyn ifanc: “Rwyf wedi dilyn yn ôl ei draed. Ro’n i wrth fy modd yn gweithio. Ro’n i'n arfer gweithio ar Court Farm... gallem ddechrau beilo am 8 o'r gloch y nos. Myn Duw roedd yn waith caled. Do’n i ddim angen unrhyw beth i'm helpu i gysgu yn y dyddiau hynny, ro’n i wedi blino cymaint. Roedd hi’n anodd i mi ddringo'r grisiau...wrth edrych yn ôl, doedd gennym ni ddim byd, ond duw, ro’n i wrth fy modd.”

“Yn sydyn yn y 1950au fe wnaethon nhw benderfynu adeiladu Llanwern a phrynwyd Court Farm yn orfodol… diwrnod tristaf fy mywyd oherwydd bod ganddyn nhw ocsiwn. Roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl yno gyda'r nos i agor y gatiau...ac roedd hi'n dawel. Dim gwartheg, dim ieir, ac mi wnes i grio fel babi.

“Yn rhyfedd wedyn, dechreuais i weithio yn Llanwern. Gwnaeth fy nhad ychydig o alwadau i rai ffrindiau Eidalaidd yng Nghasnewydd, a chefais fy ffordd i mewn i’r gwaith dur.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Glo oedd y cyfan.”

- Ray Evans, dyn rheilffordd (Magwyr)

Ray Evans (Emma Drabble)

Dechreuodd Ray Evans ar y rheilffyrdd yn 15 oed, un o tua 300 o staff locomotif ar gyffordd Twnnel Hafren. “Roedd pawb, mwy neu lai, yn gweithio ar y rheilffordd.”

Roedd swydd gyntaf Ray dihunwr. “Byddai gofalwr y locomotif yn dweud ‘dos i ddihuno William Davis yn 25 Ifton Terrace, Rogiet, a byddech yn reidio’r beic yno, yn curo’r drws a byddai’n galw: ‘Iawn!’” Cododd Ray o'r rhengoedd. Ble nesaf? Glanhawr injan: “Byddech yn defnyddio olew a cherpyn ac yn glanhau paent y locomotifau.” Yn y pen draw, fe ddaeth Ray yn yrrwr injan diesel, ond nid cyn cyfnod fel dyn tân ar yr olaf o'r trenau stêm yn cludo. Roedd swydd y dyn tân yn anodd. “Fe allech chi symud pedair neu bum tunnell o lo mewn shifft pe byddech chi'n mynd i Lundain - gwaith caled.”

Tra’n gweithio ar drenau nwyddau Twnnel Hafren, cludodd Ray popeth o geffylau rasio ar gyfer Rasys Cas-gwent, arfau rhyfel ar gyfer rhyfeloedd y Falkland ac Irac, a cheir ar fwrdd y gwasanaeth dyddiol cyn agor y bont. Yna ceir y gwasanaeth ‘bancer’ oedd yn cynorthwyo trenau stêm nwyddau trymach drwy’r Twnnel.

Uwch ei ben roedd glo, yr aur du a oedd yn pweru de Cymru: “Roedd yna lofa bob dwy filltir i fyny’r Cymoedd ac roedd yn rhaid ei gludo i gyd i lawr.” Yn ei amser, mae wedi gweld pob math o drenau ‘arbennig’, gan gynnwys colomennod! “Os oedd ras,  byddai’r sbeshials colomennod yn mynd trwyddo, gyda threnau wedi'u llwytho â cholomennod rasio. Byddem yn tynnu’r basgedi oddi ar y trên ac yna'n eu rhyddhau!”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Rwy’n cofio bomwyr yr Almaen yn hedfan drosodd.”

- Stephanie Davies, merch ffarm (Tredelerch)

Stephanie Davies (Nanette Hepburn)

“Roedden ni’n beicio neu gerdded i bobman,” meddai Stephanie Davies o Fferm Upper Newton wrth iddi gofio bywyd ar y Gwastadeddau a’r aflonyddwch a ddaeth yn sgil rhyfel.

Roedd godro buches laeth teulu Davies â llaw, a rhedeg rownd laeth heb drydan (ni chyrhaeddodd pŵer y rhannau hyn tan y 1950au) yn ddigon caled. Ond ni wnaeth rheoli’r fferm fach ar ôl cael ei tharo’n uniongyrchol gan fom Almaeneg wneud bywyd yn haws. “Un fuwch, cafodd ei thaflu allan o’r sied gan y ffrwydrad! Fe ddaethon nhw o hyd iddi yn crwydro'r bore wedyn gyda'r gadwyn yn dal o amgylch ei gwddf. Yn fyw!”

Mae’r ferch ffarm yn ei nawdegau yn cofio’r glanhawyr ffosydd teithiol a fyddai’n aros unwaith y flwyddyn: “Byddwn i’n gwneud gwelyau ar eu cyfer yn yr ysgubor. Roedden nhw'n ddynion cryf iawn ac yn cadw'r rhewynau yn lân gyda dim ond rhaw a fforch.”

Gwyliodd lorïau'r fyddin yn dod a gynnau mawr heb eu ffrwydro ar y Gwastadeddau (“mae'n rhaid eu bod wedi eu gadael yn y mwd ar yr hyn roedden ni'n ei alw'n lynches”) a milwyr Americanaidd hael yn rhannu losin. “Fe wnaethon ni’n dda iawn am fwyd bob amser, er gwaethaf y dogni, ond,” mae'n cyfaddef, “fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i'r gwaith pan gawson ni'r trydan yn y pen draw.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Os na fyddwn ni'n dysgu ein plant, ni fyddan nhw'n dysgu unrhyw un arall.”

- Sue Waters, hanesydd (Whitson)

Sue Waters (Emma Drabble)

GWYLIWCH GYFWELIAD Sue Waters

Gwaith dur Richard Thomas & Baldwins ’oedd y gwaith dur integredig cyntaf i ddefnyddio prosesau chwythu ocsigen ym Mhrydain pan agorodd yn Llanwern yn 1962. Ar ei anterth, roedd yn cyflogi miloedd o weithwyr, ac fe’i gwasgarwyd dros sawl milltir o’r Gwastadeddau.

“Dywed pobl pe baech yn llwyddo i gael swydd yn y gwaith dur roedd gennych chi swydd am oes,” meddai Chris George. “Yn achos Tony, roedd hyn yn gywir.”

Roedd Tony wedi gadael yr ysgol yn 16 oed. “Roedd gen i swydd yn Llanwern yn 1960. Priododd Chris a minnau yn 1963 a neilltuwyd byngalo i ni yn Tennyson Avenue.” Roedd yma deimlad cryf o gymuned. “Roedden ni'n nabod pawb o ddechrau'r pentref i ben y ffordd.”

Roedd ffens yn gwahanu Tennyson Avenue (a elwir hefyd yn ‘Managers’ Avenue, gan fod llawer o staff uwch o’r gwaith yn cael eu cartrefu yma), â’r Gwaith Dur, canolbwynt Casnewydd diwydiannol. Roedd goleuadau'r iard stoc mor llachar y gallech chi ddarllen yr evening Argus yn hwyr y nos yn yr ardd. A phan chwythodd y gwynt y ffordd anghywir, roedd hi’n glawio llwch coch: “Roedd rhaid i mi olchi dillad Tony bob dydd a doedd dim posib rhoi’r golch allan.”

Roedd digonedd o waith. “Roedd Whiteheads (lle'r oedd Chris yn gweithio fel gweithredwr tâp cyfrifiadur), Braithwaite’s, Stewart and Lloyds, Standard and Telephones, Monsanto, British Aluminium. Erbyn cyrraedd 19 oed, fe allech chi fod wedi cael tair neu bedair swydd,” meddai Tony.

Ni pharhaodd. “Roeddem yn cynhyrchu deunydd ac yna, yn y diwedd, daeth pobl eraill a dechrau ei gynhyrchu’n rhatach. Yna daeth y diwydiant i ben. Nawr”, meddai Tony, “go brin ein bod ni'n nabod neb yma nawr.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Ein bywyd ni oedd y rheilffyrdd.”

- Terry Theobald, gyrrwr trên (Magwyr)

Tony a Chris George (Nanette Hepburn)

“Fy atgofion cyntaf i’w gorwedd yn y gwely gyda’r nos yn Rogiet. Fe allech chi glywed chwisl y trenau stêm a’r uwchseinydd yn atseinio: ‘Fan brêc yn rhif 8!’ Byddai’r prysurdeb yn atseinio o amgylch y pentref. Bendigedig.”

Erbyn yr oedd Terry yn 15 oed, roedd yn rhedwr yng Nghyffordd Twnnel Hafren. Y flwyddyn oedd 1972, a'r Twnnel, a orffennwyd yn 1885, oedd y strwythur tanddwr hiraf y byd o hyd. Roedd yr iard drefnu nwyddau ar ochr Gwent yn enfawr ac yn beryglus: roedd rhedwyr yn rhedeg ochr yn ochr â wagenni symudol, yn eu gwthio i lawr y llethrau gyda pholion hir. “Fe gollodd un dyn yma ei goesau yn gwneud hyn.”

Gadawodd Terry y rheilffyrdd am gyfnod ar ôl ceisio achub dynes a ddisgynnodd o blatfform Caerdydd: “Neidiais ar y trac i’w thynnu o’r ffordd, ond wnes ddim ei chyrraedd hi. Cafodd ei tharo gan y trên.” Yn y diwedd dychwelodd yr arwr diymhongar yma i'w reilffyrdd, ac fel ei dad-cu o'i flaen, fe ddaeth yn yrrwr trên.

Mae wedi gweld llawer o newid ar y Gwastadeddau: “Ni allai’r bobl a arferai fyw yma fforddio byw yma bellach. Maen nhw’n galw hynny yn ddatblygiad. Wel, mae gan bawb farn ar hynny!” Ond does dim yn amharu’r atgofion plentyndod hynny: “Nid oedd Nos Galan yn yr iardiau trefnu yn ddim gwahanol i unrhyw noson waith arall heblaw y byddai pob un gyrrwr yn chwythu’r chwislau stêm am hanner nos. Bendigedig.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Yn y gwaith dur roedd gennych chi swydd am oes.”

- Tony a Chris George, gweithwyr dur (Llanwern)

Tony a Chris George (Nanette Hepburn)

Gwaith dur Richard Thomas & Baldwins ’oedd y gwaith dur integredig cyntaf i ddefnyddio prosesau chwythu ocsigen ym Mhrydain pan agorodd yn Llanwern yn 1962. Ar ei anterth, roedd yn cyflogi miloedd o weithwyr, ac fe’i gwasgarwyd dros sawl milltir o’r Gwastadeddau.

“Dywed pobl pe baech yn llwyddo i gael swydd yn y gwaith dur roedd gennych chi swydd am oes,” meddai Chris George. “Yn achos Tony, roedd hyn yn gywir.”

Roedd Tony wedi gadael yr ysgol yn 16 oed. “Roedd gen i swydd yn Llanwern yn 1960. Priododd Chris a minnau yn 1963 a neilltuwyd byngalo i ni yn Tennyson Avenue.” Roedd yma deimlad cryf o gymuned. “Roedden ni'n nabod pawb o ddechrau'r pentref i ben y ffordd.”

Roedd ffens yn gwahanu Tennyson Avenue (a elwir hefyd yn ‘Managers’ Avenue, gan fod llawer o staff uwch o’r gwaith yn cael eu cartrefu yma), â’r Gwaith Dur, canolbwynt Casnewydd diwydiannol. Roedd goleuadau'r iard stoc mor llachar y gallech chi ddarllen yr evening Argus yn hwyr y nos yn yr ardd. A phan chwythodd y gwynt y ffordd anghywir, roedd hi’n glawio llwch coch: “Roedd rhaid i mi olchi dillad Tony bob dydd a doedd dim posib rhoi’r golch allan.”

Roedd digonedd o waith. “Roedd Whiteheads (lle'r oedd Chris yn gweithio fel gweithredwr tâp cyfrifiadur), Braithwaite’s, Stewart and Lloyds, Standard and Telephones, Monsanto, British Aluminium. Erbyn cyrraedd 19 oed, fe allech chi fod wedi cael tair neu bedair swydd,” meddai Tony.

Ni pharhaodd. “Roeddem yn cynhyrchu deunydd ac yna, yn y diwedd, daeth pobl eraill a dechrau ei gynhyrchu’n rhatach. Yna daeth y diwydiant i ben. Nawr”, meddai Tony, “go brin ein bod ni'n nabod neb yma nawr.”

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Rhaid i chi fod yn ofalus”

- Jim Worrington, Morwr

Jim Worrington (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Jim Worrington

Mae Jim Worrington yn gweld y Gwastadeddau o ongl wahanol pan mae ef a'i wraig yn eu cwch yn hwylio i lawr yr aber.

Yn forwr profiadol, mae'n aelod ac yn gyn-lywydd i’r clwb 50 mlwydd oed, Clwb Hwylio Aberwysg Casnewydd, yn wreiddiol Clwb Hwylio Casnewydd, ac mae ei hun yn aelod o Gymdeithas Hwylio Môr Hafren. “Ry’n ni wedi gwneud Iwerddon sawl gwaith, mynd i lawr i Ffrainc un flwyddyn; ry’n ni'n gwneud Ynysoedd y Sianel, y Scillies, arfordir y de. ”

Yn yr amser hwnnw, mae wedi dysgu parchu’r môr. “Ar un achlysur, roedden ni ger Ynys Echni  pan glywson ni berson yn gweiddi am help.” Pâr o ganŵ-wyr blinedig yn rhwyfo ar gyfer elusen. “Fe wnaethon ni eu towio yn ôl i’r Barri. Mae'n rhaid i chi fod yn ofalus, mae’n rhaid edrych ar y tywydd yn gyntaf bob amser." 

Cafodd Jim ei hun a ffrind eu hachub ar y môr pan suddodd eu cwch 20 milltir oddi ar Oleudy Eddystone. “Fe gawson ni ein taro gan fellten ac fe aeth y cwch ar dân.” Yn ffodus, cawsant eu codi gan long oedd yn pasio. 

Ond mae perygl yn llechu hyd yn oed ar dir. Rai blynyddoedd yn ôl, roedd Jim yn ceisio datod cilbren cwch pan aeth yn gaeth ym mwd yr aber. Cafodd ei dynnu i ddiogelwch gan y Frigâd Dân, sy'n ymarfer yn rheolaidd yn y Clwb Hwylio. “Rhaid i chi fod yn ofalus.”