- Mike Mazzoleni, cyn-weithiwr dur Llanwern (Whitson)
Mike Mazzoleni (Emma Drabble)
▶ Gwyliwch gyfweliad Mike Mazzoleni
“Roedd fy nhad yn garcharor rhyfel Eidalaidd a daethon nhw ag ef drosodd i Lantarnam, gwersyll carcharorion rhyfel Eidalaidd mawr ar ôl cael ei ddal yn rhywle Ewrop. Bob dydd byddai'r carcharorion yn cael eu dyrannu i ffermydd yn yr ardal hon. Ac ar ôl sawl ymweliad â Court Farm yma yn Whitson, fe benderfynon nhw ei gadw. Felly ni ddychwelodd i'r Eidal. Dyma pryd y gwnaeth o gyfarfod â fy mam, yn y ddawns leol i lawr yn y Farmer’s Arms yn Allteuryn, a dyna sut y des i i fod yn Whitson heddiw. ”
Dilynodd Mike yn ôl troed ei dad trwy hefyd weithio yn Court Farm, Whitson yn ddyn ifanc: “Rwyf wedi dilyn yn ôl ei draed. Ro’n i wrth fy modd yn gweithio. Ro’n i'n arfer gweithio ar Court Farm... gallem ddechrau beilo am 8 o'r gloch y nos. Myn Duw roedd yn waith caled. Do’n i ddim angen unrhyw beth i'm helpu i gysgu yn y dyddiau hynny, ro’n i wedi blino cymaint. Roedd hi’n anodd i mi ddringo'r grisiau...wrth edrych yn ôl, doedd gennym ni ddim byd, ond duw, ro’n i wrth fy modd.”
“Yn sydyn yn y 1950au fe wnaethon nhw benderfynu adeiladu Llanwern a phrynwyd Court Farm yn orfodol… diwrnod tristaf fy mywyd oherwydd bod ganddyn nhw ocsiwn. Roedd yn rhaid i mi fynd yn ôl yno gyda'r nos i agor y gatiau...ac roedd hi'n dawel. Dim gwartheg, dim ieir, ac mi wnes i grio fel babi.
“Yn rhyfedd wedyn, dechreuais i weithio yn Llanwern. Gwnaeth fy nhad ychydig o alwadau i rai ffrindiau Eidalaidd yng Nghasnewydd, a chefais fy ffordd i mewn i’r gwaith dur.”
Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau
Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.
Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.
Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.
Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.