- Tony a Chris George, gweithwyr dur (Llanwern)
Gwaith dur Richard Thomas & Baldwins ’oedd y gwaith dur integredig cyntaf i ddefnyddio prosesau chwythu ocsigen ym Mhrydain pan agorodd yn Llanwern yn 1962. Ar ei anterth, roedd yn cyflogi miloedd o weithwyr, ac fe’i gwasgarwyd dros sawl milltir o’r Gwastadeddau.
“Dywed pobl pe baech yn llwyddo i gael swydd yn y gwaith dur roedd gennych chi swydd am oes,” meddai Chris George. “Yn achos Tony, roedd hyn yn gywir.”
Roedd Tony wedi gadael yr ysgol yn 16 oed. “Roedd gen i swydd yn Llanwern yn 1960. Priododd Chris a minnau yn 1963 a neilltuwyd byngalo i ni yn Tennyson Avenue.” Roedd yma deimlad cryf o gymuned. “Roedden ni'n nabod pawb o ddechrau'r pentref i ben y ffordd.”
Roedd ffens yn gwahanu Tennyson Avenue (a elwir hefyd yn ‘Managers’ Avenue, gan fod llawer o staff uwch o’r gwaith yn cael eu cartrefu yma), â’r Gwaith Dur, canolbwynt Casnewydd diwydiannol. Roedd goleuadau'r iard stoc mor llachar y gallech chi ddarllen yr evening Argus yn hwyr y nos yn yr ardd. A phan chwythodd y gwynt y ffordd anghywir, roedd hi’n glawio llwch coch: “Roedd rhaid i mi olchi dillad Tony bob dydd a doedd dim posib rhoi’r golch allan.”
Roedd digonedd o waith. “Roedd Whiteheads (lle'r oedd Chris yn gweithio fel gweithredwr tâp cyfrifiadur), Braithwaite’s, Stewart and Lloyds, Standard and Telephones, Monsanto, British Aluminium. Erbyn cyrraedd 19 oed, fe allech chi fod wedi cael tair neu bedair swydd,” meddai Tony.
Ni pharhaodd. “Roeddem yn cynhyrchu deunydd ac yna, yn y diwedd, daeth pobl eraill a dechrau ei gynhyrchu’n rhatach. Yna daeth y diwydiant i ben. Nawr”, meddai Tony, “go brin ein bod ni'n nabod neb yma nawr.”
Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau
Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.
Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.
Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.
Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.