“Mae gennym ni gymuned dda yma”

- Roley Price, Ffermwr

Roley Price (Emma Drabble)

Mae Roley ac Ann wedi ffermio yn Channel View yn y Redwig ers tua hanner canrif. “Ry’n ni’n ymfalchïo yn y pentref,” meddai Roley. “Mae'n gymuned dda,” ychwanega Ann.

Ganwyd Roley yma. Ar ôl i’w dad, Trevor briodi Gwyneth Commerson, merch Byddin Tir y Merched Caerffili, fe gymerodd y teulu dyddyn. Roedd ganddyn nhw gyr bach o wartheg, a babi Roley “wedi’i dodi mewn tun cacennau wrth i Mam odro’r gwartheg”, tra bo Trevor yn gyrru’r llaeth o ffermydd cyfagos i Laethdy Maerun. Roedd yna wyau i'w casglu, afalau seidr i'w pacio ar gyfer Bulmers yn Henffordd a hyd yn oed asyn anwes i ddysgu gwers i Roley: “Fe roddais ysgall i fyny ei phen ôl unwaith ac fe ges i gig!”

Pan aeth ei dad yn sâl byddai Roley, 12 oed, yn godro'r gwartheg cyn mynd i’r ysgol. Roedd diwrnodau marchnad yn golygu mwy o amser i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth: “Ro’n i’n barod yn gweithio i'r arwerthwyr yng Nghasnewydd yn 13. Dysgais i fwy nag yn yr ysgol.” 

Bellach mae'r cwpl yn rhedeg eu buches odro eu hunain, 80 mewn cyfanswm. “Mae yna chwe fferm laeth o fewn radiws o dair milltir i fan hyn.” Mae llawer yn dal i fasnachu yn y ffordd draddodiadol, gan brynu ar ymddiriedaeth a chwrdd â biliau hyd at filoedd o bunnoedd pan ddaw'r arian i mewn. Fel yr eglura Roley: “Rhaid i chi gadw at eich gair.”


 

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

“Y Gwastadeddau - darn o dir wedi ei greu gan y môr.”

- Neville Waters MBE

Neville Waters (Emma Drabble)

Mae pobl yn siarad am y Gwastadeddau, ond, fel yr eglura ffermwr trydedd genhedlaeth, Neville Waters, mae sir Gwent yn gartref i dri: “Gwastadedd Gwynllŵg, Morfa Gwent ac, yn y canol rhwng afonydd Wysg ac Ebwy, y Mendelgyf.”

Ar y cyfan, meddai Neville, mae Mendelgyf wedi diflannu. “Roedd yna fil o erwau neu fwy o’r Mendelgyf, ond roedd dociau Casnewydd yn ei orchuddio’n eitha’ da.”

Wedi'u ffermio ers cyfnod y Rhufeiniaid, mae'r lliddwr o’r Hafren wedi cyfoethogi'r gwastatir llifwaddod hwn. Pan roddodd tad Neville ddarn o’i laswelltir i’r aradr fel rhan o ymdrech y rhyfel yn 1941, roedd y cynnyrch dros ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol: “Rwy’n cofio edrych i fyny at ysgwydd fy nhad a dyna lle'r oedd top y gwenith: cnwd anhygoel,” atgofia Neville.

Fodd bynnag, fel polderau yr Iseldiroedd, mae'r rhan fwyaf o'r tir hwn yn is na lefel y môr a phris ffrwythlondeb yw'r bygythiad parhaol o lifogydd. “Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i recordio adeiladu morglawdd yma,” meddai Neville. (Efallai bod Carreg Allteuryn yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a ddarganfuwyd yn 1874, yn coffáu morglawdd y Rhufeiniaid). Ac mae’r frwydr i reoli’r môr wedi parhau byth ers hynny. “Gall stormydd wneud gwahaniaeth enfawr. Twll, efallai dim ond ychydig lathenni, ac fe ddaw’r dŵr i mewn heb stop, mor gyflym ag y gall ceffyl redeg!”


 

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.

"Mae’r eglwys yn annwyl i ni"

- Mary Hann a Ruth Richards, yn eu nawdegau

 

Mary Hahn (Emma Drabble)

 

Chwaraeodd Eglwys Maerun ran bwysig ym mywyd y gymuned. “Eglwys dair gwaith y dydd i ni ar ddydd Sul,” meddai Mary a ddysgodd yn yr ysgol Sul ac a aeth ymlaen i fod yn organydd eglwys. Yn y cyfamser, roedd Ruth yn weithgar gyda’r côr am ryw 75 mlynedd tra bod eu brawd Doug wedi bod yn canu gyda nhw ers pan oedd yn 7 oed.

“Mae’r eglwys yn annwyl iawn i ni,” eglura Mair. “Mae fy ngŵr a fy mrawd wedi’u claddu yma; mae mam a dad wedi'u claddu yma.” William ac Olive Richards oedd eu rhieni; William oedd y garddwr ac Olive y cogydd i deulu Gunn yn Nhŷ Neuadd Crag. “Roedden ni’n deulu tlawd, pump o blant.” Bydden nhw’n ymweld â'r morglawdd yn yr haf, padlo ar draeth Llanbedr Gwynllŵg ac ambell argyfwng fel yr amser pan dorrodd Ruth bys ei throed ar ddarn o wydr. “Fe allai weld Mam nawr, yn cario Ruth yn ei breichiau tuag at y ffordd, pan ddaeth fan pobydd heibio a mynd â hi at y meddyg.”
Roedd eu dyddiau ysgol ym Maerun yn gymharol ddigyffro nes i fan werdd arswydus y gwasanaeth deintyddol gyrraedd. “Roedden nhw’n ymweld â'r ysgol bob cwpl o fisoedd i dynnu dannedd neu lenwi, ac yn gadael i chi wybod os oedd eich enw ar y rhestr. Bydden ni’n chwarae’r diawl oherwydd roedd pawb ofn y fan werdd!”


 

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.