“Byddaf yn gwneud unrhyw beth i fod yn yr awyr agored.”

- Paul Cawley, tyddynnwr (Gwndy)

Paul Cawley (Emma Drabble)

Gwyliwch gyfweliad Paul Cawley

Mae Paul Cawley yn ‘Wastadeddwr’ trydedd genhedlaeth. “Nid wyf erioed wedi colli cysylltiad â’r Rhostiroedd,” eglura Paul. “Roedd fy nhad-yng-nghyfraith, er iddo weithio yn y gwaith dur am gyfnod, hefyd yn gweithio ar fferm i fyny yng Nghastell Pencoed.” Mae Paul wedi byw yn nhyddyn y teulu ger Magwyr ers y 1960au.

Mae ef a'i wraig, Beverly, yn caru bywyd ar y Gwastadeddau. Mae’r ddau yn dwyn i gof y busnes peryglus o bori gwartheg rhwng y llanw ar Ynys Denny, allan yn yr aber. “Byddech chi’n cerdded y gwartheg allan ac yna aros yno gyda nhw am 12 awr!” eglura Paul.
Mae’n trin yr Hafren gyda pharch, yn enwedig pan mae allan yn gwirfoddoli gyda Wildlife Warriors Cors Magwyr. “Mae gennym ni’r ail lanw cyflymaf yn y byd. Os ydych chi mewn ardal llanw, edrychwch ar y llinell fach ddu ar y gorwel. Os bydd y llinell yno’n cynyddu mewn cwpl o funudau, rhedwch – mae’r llanw ar y ffordd yn ôl. ”

Fel ciper, mae Paul Cawley yn credu bod y lobi saethu yn dod â buddion sylweddol i natur leol (“mae yna fwy o fywyd gwyllt ar saethau wedi eu gwarchod gan giperiaid nag ar warchodfeydd natur”) ac mae ei waith wedi dod ag ef i gysylltiad â'r bywyd gwyllt lleol o ddyfrgwn, ysgyfarnogod, crehyrod, cigfrain a bwncathod i'r gornchwiglen sy’n prysur brinhau.


 

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.