- Neville Waters MBE
Mae pobl yn siarad am y Gwastadeddau, ond, fel yr eglura ffermwr trydedd genhedlaeth, Neville Waters, mae sir Gwent yn gartref i dri: “Gwastadedd Gwynllŵg, Morfa Gwent ac, yn y canol rhwng afonydd Wysg ac Ebwy, y Mendelgyf.”
Ar y cyfan, meddai Neville, mae Mendelgyf wedi diflannu. “Roedd yna fil o erwau neu fwy o’r Mendelgyf, ond roedd dociau Casnewydd yn ei orchuddio’n eitha’ da.”
Wedi'u ffermio ers cyfnod y Rhufeiniaid, mae'r lliddwr o’r Hafren wedi cyfoethogi'r gwastatir llifwaddod hwn. Pan roddodd tad Neville ddarn o’i laswelltir i’r aradr fel rhan o ymdrech y rhyfel yn 1941, roedd y cynnyrch dros ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol: “Rwy’n cofio edrych i fyny at ysgwydd fy nhad a dyna lle'r oedd top y gwenith: cnwd anhygoel,” atgofia Neville.
Fodd bynnag, fel polderau yr Iseldiroedd, mae'r rhan fwyaf o'r tir hwn yn is na lefel y môr a phris ffrwythlondeb yw'r bygythiad parhaol o lifogydd. “Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i recordio adeiladu morglawdd yma,” meddai Neville. (Efallai bod Carreg Allteuryn yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a ddarganfuwyd yn 1874, yn coffáu morglawdd y Rhufeiniaid). Ac mae’r frwydr i reoli’r môr wedi parhau byth ers hynny. “Gall stormydd wneud gwahaniaeth enfawr. Twll, efallai dim ond ychydig lathenni, ac fe ddaw’r dŵr i mewn heb stop, mor gyflym ag y gall ceffyl redeg!”
Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau
Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.
Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.
Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.
Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.