“Ein bywyd ni oedd y rheilffyrdd.”

- Terry Theobald, gyrrwr trên (Magwyr)

Tony a Chris George (Nanette Hepburn)

“Fy atgofion cyntaf i’w gorwedd yn y gwely gyda’r nos yn Rogiet. Fe allech chi glywed chwisl y trenau stêm a’r uwchseinydd yn atseinio: ‘Fan brêc yn rhif 8!’ Byddai’r prysurdeb yn atseinio o amgylch y pentref. Bendigedig.”

Erbyn yr oedd Terry yn 15 oed, roedd yn rhedwr yng Nghyffordd Twnnel Hafren. Y flwyddyn oedd 1972, a'r Twnnel, a orffennwyd yn 1885, oedd y strwythur tanddwr hiraf y byd o hyd. Roedd yr iard drefnu nwyddau ar ochr Gwent yn enfawr ac yn beryglus: roedd rhedwyr yn rhedeg ochr yn ochr â wagenni symudol, yn eu gwthio i lawr y llethrau gyda pholion hir. “Fe gollodd un dyn yma ei goesau yn gwneud hyn.”

Gadawodd Terry y rheilffyrdd am gyfnod ar ôl ceisio achub dynes a ddisgynnodd o blatfform Caerdydd: “Neidiais ar y trac i’w thynnu o’r ffordd, ond wnes ddim ei chyrraedd hi. Cafodd ei tharo gan y trên.” Yn y diwedd dychwelodd yr arwr diymhongar yma i'w reilffyrdd, ac fel ei dad-cu o'i flaen, fe ddaeth yn yrrwr trên.

Mae wedi gweld llawer o newid ar y Gwastadeddau: “Ni allai’r bobl a arferai fyw yma fforddio byw yma bellach. Maen nhw’n galw hynny yn ddatblygiad. Wel, mae gan bawb farn ar hynny!” Ond does dim yn amharu’r atgofion plentyndod hynny: “Nid oedd Nos Galan yn yr iardiau trefnu yn ddim gwahanol i unrhyw noson waith arall heblaw y byddai pob un gyrrwr yn chwythu’r chwislau stêm am hanner nos. Bendigedig.”


 

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.