- Ray Evans, dyn rheilffordd (Magwyr)
Dechreuodd Ray Evans ar y rheilffyrdd yn 15 oed, un o tua 300 o staff locomotif ar gyffordd Twnnel Hafren. “Roedd pawb, mwy neu lai, yn gweithio ar y rheilffordd.”
Roedd swydd gyntaf Ray dihunwr. “Byddai gofalwr y locomotif yn dweud ‘dos i ddihuno William Davis yn 25 Ifton Terrace, Rogiet, a byddech yn reidio’r beic yno, yn curo’r drws a byddai’n galw: ‘Iawn!’” Cododd Ray o'r rhengoedd. Ble nesaf? Glanhawr injan: “Byddech yn defnyddio olew a cherpyn ac yn glanhau paent y locomotifau.” Yn y pen draw, fe ddaeth Ray yn yrrwr injan diesel, ond nid cyn cyfnod fel dyn tân ar yr olaf o'r trenau stêm yn cludo. Roedd swydd y dyn tân yn anodd. “Fe allech chi symud pedair neu bum tunnell o lo mewn shifft pe byddech chi'n mynd i Lundain - gwaith caled.”
Tra’n gweithio ar drenau nwyddau Twnnel Hafren, cludodd Ray popeth o geffylau rasio ar gyfer Rasys Cas-gwent, arfau rhyfel ar gyfer rhyfeloedd y Falkland ac Irac, a cheir ar fwrdd y gwasanaeth dyddiol cyn agor y bont. Yna ceir y gwasanaeth ‘bancer’ oedd yn cynorthwyo trenau stêm nwyddau trymach drwy’r Twnnel.
Uwch ei ben roedd glo, yr aur du a oedd yn pweru de Cymru: “Roedd yna lofa bob dwy filltir i fyny’r Cymoedd ac roedd yn rhaid ei gludo i gyd i lawr.” Yn ei amser, mae wedi gweld pob math o drenau ‘arbennig’, gan gynnwys colomennod! “Os oedd ras, byddai’r sbeshials colomennod yn mynd trwyddo, gyda threnau wedi'u llwytho â cholomennod rasio. Byddem yn tynnu’r basgedi oddi ar y trên ac yna'n eu rhyddhau!”
Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau
Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.
Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.
Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.
Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.