“Rwy’n cofio bomwyr yr Almaen yn hedfan drosodd.”

- Stephanie Davies, merch ffarm (Tredelerch)

Stephanie Davies (Nanette Hepburn)

“Roedden ni’n beicio neu gerdded i bobman,” meddai Stephanie Davies o Fferm Upper Newton wrth iddi gofio bywyd ar y Gwastadeddau a’r aflonyddwch a ddaeth yn sgil rhyfel.

Roedd godro buches laeth teulu Davies â llaw, a rhedeg rownd laeth heb drydan (ni chyrhaeddodd pŵer y rhannau hyn tan y 1950au) yn ddigon caled. Ond ni wnaeth rheoli’r fferm fach ar ôl cael ei tharo’n uniongyrchol gan fom Almaeneg wneud bywyd yn haws. “Un fuwch, cafodd ei thaflu allan o’r sied gan y ffrwydrad! Fe ddaethon nhw o hyd iddi yn crwydro'r bore wedyn gyda'r gadwyn yn dal o amgylch ei gwddf. Yn fyw!”

Mae’r ferch ffarm yn ei nawdegau yn cofio’r glanhawyr ffosydd teithiol a fyddai’n aros unwaith y flwyddyn: “Byddwn i’n gwneud gwelyau ar eu cyfer yn yr ysgubor. Roedden nhw'n ddynion cryf iawn ac yn cadw'r rhewynau yn lân gyda dim ond rhaw a fforch.”

Gwyliodd lorïau'r fyddin yn dod a gynnau mawr heb eu ffrwydro ar y Gwastadeddau (“mae'n rhaid eu bod wedi eu gadael yn y mwd ar yr hyn roedden ni'n ei alw'n lynches”) a milwyr Americanaidd hael yn rhannu losin. “Fe wnaethon ni’n dda iawn am fwyd bob amser, er gwaethaf y dogni, ond,” mae'n cyfaddef, “fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i'r gwaith pan gawson ni'r trydan yn y pen draw.”


 

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.