Ymosodiad Estron
Myfyrwyr Celf Cymreig yn codi ymwybyddiaeth o Rywogaethau Estron Goresgynnol.
Fel rhan o'r Prosiect INNS Lefelau Byw, mae myfyrwyr celf yng Ngholeg Gwent (Campws Dinas Casnewydd) wedi bod yn cynhyrchu posteri a cherfluniau ‘B-movie’ gyda'r briff ‘Ymosodiad Estron' fel ffordd wahanol o edrych ar Rywogaethau Estron Goresgynnol sy'n berthnasol i Wastadeddau Gwent.
Dyma ddarnau celf rhyfeddol o fanwl a thrawiadol. Bydd y lluniau isod yn rhoi ychydig o flas i chi o rai o'r darnau a gynhyrchwyd ac rydym yn gobeithio y byddant yn codi ymwybyddiaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol ac yn apelio at gynulleidfa ehangach.