Hiasinth y Dŵr

Eichhornia crassipes

be_plant_wise_logo_WELSH.png
muntjac GBNNSS.jpg

Cynefin

Pyllau, llynnoedd pysgota, ffosydd a chamlesi.

Nodweddion Adnabod Allweddol

  • Planhigyn dŵr sy’n arnofio gyda dail hirgrwn llydan, trwchus, sgleiniog a bỳlb hynawf ar ei waelod.

  • Mae ganddo un sbrigyn o flodau pinc/porffor.

  • Mae'n tyfu’n gyflym iawn, gan ffurfio matiau trwchus sy'n gallu lledaenu'n gyflym ar draws llynnoedd a phyllau yn llwyr.

Dosbarthiad

Tua 25 o safleoedd ledled Prydain Fawr ond anaml yn goroesi rhew.

Effeithiau

Yn achosi llifogydd trwy rwystro sianeli dŵr a sianeli draenio. Yn gallu gorchuddio ardaloedd helaeth mewn cyfnod byr, gan dagu'r corff dŵr cyfan a disodli rhywogaethau brodorol.

Gair i Gall:

  • Peidiwch â thorri’r gyfraith - ‘Mynd at Wraidd y Mater’ - peidiwch â chael gwared ar blanhigion dŵr estron goresgynnol yn y gwyllt na’u symud i byllau eraill. Os ydych chi’n achosi iddo ledaenu, efallai y byddwch yn euog o drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019. Ni chewch eich gwahardd rhag cael hwn yn eich pwll os yw yno’n barod, ond mae'n ofynnol i chi gymryd gofal i'w compostio yn dda.

  • Peidiwch â phrynu o unrhyw siop/marchnad ar gyfer acwariwm a gerddi dŵr. Mae wedi ei wahardd rhag gwerthu yn y DU.

  • Cofiwch waredu planhigion estron goresgynnol yn gyfrifol - gadewch iddynt sychu mewn man heulog 3m i ffwrdd o ddŵr. Gellir eu compostio neu losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl eu sychu’n llwyr.


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.

EISOES YN BRESENNOL