Ceirw Mwntjac
Muntiacus reevesi
Cynefin
Ystod eang o gynefinoedd coedwigol, tir ffermio âr, a hyd yn oed parciau a gerddi trefol.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Ceirw bach, byrdew gyda ffwr cochlyd a choesau byr.
Mae ochr isaf ei gynffon yn wyn.
Mae gan wrywod gyrn syml byr a dwy linell dywyll sy'n rhedeg ar draws y talcen tuag at y trwyn.
Dosbarthiad
Yn eang ledled y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr.
Effeithiau
Mae poblogaethau mawr o Mwntjac yn disodli’r iwrch brodorol. Pori sy'n achosi'r effaith fwyaf sylweddol. Maent yn bwydo ar gnydau sy’n tyfu ac ar aildyfiant coedwigoedd gan effeithio ar strwythur y llwyni a llawr y goedwig, a'r anifeiliaid sy'n dibynnu arnynt am fwyd neu gysgod, fel adar a gloÿnnod byw.
Gair i Gall:
Peidiwch â thorri'r gyfraith - gallwch fod yn euog o drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 os ydych chi’n rhyddhau Mwntjac i'r amgylchedd.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.