Dail-ceiniog arnofiol
Hydrocotyle ranunculoides
Cynefin
Dŵr croyw llonydd neu'n llifo’n araf
Nodweddion Adnabod Allweddol
Dail sgleiniog, siâp aren gydag ymyl wedi crychu.
Yn ffurfio matiau trwchus o ddail yn arnofio neu’n ymddangos uwchben wyneb y dŵr.
Dosbarthiad
Ar wasgar yn Lloegr gyda chofnodion yng Ngogledd Cymru. Yn flaenorol ar Wastadeddau Gwent ond wedi'u gwaredu yn ddiweddar.
Effeithiau
Yn disodli rhywogaethau estron trwy rwystro golau, diocsigenu’r dŵr, rhwystro pryfed sy'n anadlu aer rhag cyrraedd wyneb y dŵr, a lleihau tymereddau'r dŵr. Gall achosi damweiniau pan fydd anifeiliaid a phobl yn camgymryd dŵr wedi'i orchuddio â dail-ceiniog arnofiol fel tir.
Gair i Gall:
Peidiwch â phrynu o unrhyw siop/marchnad ar gyfer acwariwm a gerddi dŵr – Mae yn erbyn y gyfraith i’w werthu.
Cofiwch edrych a yw'r planhigyn hwn yn bresennol yn eich pwll/acwariwm - mae’n union fel anghenfil mewn cuddwisg!
Cofiwch waredu planhigion estron goresgynnol yn gyfrifol - gadewch iddynt sychu mewn man heulog 3m i ffwrdd o ddŵr. Gellir eu compostio neu losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl eu sychu’n llwyr.
Peidiwch â thorri’r gyfraith - ‘Mynd at Wraidd y Mater’- peidiwch â chael gwared ar blanhigion dŵr estron goresgynnol yn y gwyllt na’u symud i byllau eraill. Os ydych chi’n achosi i Ddail-ceiniog arnofiol ledaenu, efallai y byddwch yn euog o drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.