Ffugalaw Crych
Lagarosiphon major
Cynefin
Dŵr llawn maetholion sy'n llonydd neu'n llifo’n araf.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Yn wyrdd tywyll gyda llawer o ganghennau.
Dail yn tyfu wrth droelli’n dynn o amgylch y goes.
Yn tyfu hyd at 3m o hyd.
Dosbarthiad
Yn eang yng Nghymru a Lloegr.
Effeithiau
Yn cymryd drosodd corff dŵr yn gyflym yn disodli rhywogaethau brodorol, gan leihau bioamrywiaeth. Gall hefyd fod yn rhwystredig a lleihau cynhwysedd storio dŵr llifogydd.
Gair i Gall:
Peidiwch â phrynu o unrhyw siop/marchnad ar gyfer acwariwm a gerddi dŵr. Yn aml wedi ei labelu fel ‘planhigyn yn ocsigeneiddio’ - mae yn erbyn y gyfraith i’w werthu.
Cofiwch edrych a yw'r planhigyn hwn yn bresennol yn eich pwll/acwariwm - mae’n union fel anghenfil mewn cuddwisg!
Cofiwch waredu planhigion estron goresgynnol yn gyfrifol - gadewch iddynt sychu mewn man heulog 3m i ffwrdd o ddŵr. Gellir eu compostio neu losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl eu sychu'n llwyr.
Peidiwch â thorri’r gyfraith - ‘Mynd at Wraidd y Mater’- peidiwch â chael gwared ar blanhigion dŵr estron goresgynnol yn y gwyllt na’u symud i byllau eraill. Os ydych chi’n achosi i Ffugalaw Crych ledaenu, efallai y byddwch yn euog o drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.