Briallu’r Dŵr
Ludwigia grandiflora
Cynefin
Gwlyptiroedd a chyrion sianeli dŵr, ffosydd, pyllau a llynnoedd.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Planhigyn ymgripiol ar hyd ymyl dŵr sy'n lledaenu i mewn i ddŵr, gan greu matiau sy’n arnofio.
Atgenhedlu o hadau ac o ddarnau bach o goes.
Gyda llawer o flodau melyn yn yr haf a dail bach hirgrwn.
Dosbarthiad
30 safle (29 yn Lloegr, 1 yng Nghymru), ac yn credu bod deg o'r safleoedd hyn wedi'u waredu’n llwyddiannus (2020).
Effeithiau
Mae'r mat trwchus ar wyneb y dŵr yn lleihau lefelau golau ac ocsigen, gan arwain at golli planhigion a bywyd gwyllt brodorol. Achosi problemau gan lenwi dyfrffyrdd a systemau draenio.
Gair i Gall:
Peidiwch â phrynu o unrhyw siop/marchnad ar gyfer acwariwm a gerddi dŵr - Mae yn erbyn y gyfraith i’w werthu.
Cofiwch edrych a yw'r planhigyn hwn yn bresennol yn eich pwll/acwariwm - mae’n union fel anghenfil mewn cuddwisg!
Cofiwch waredu planhigion estron goresgynnol yn gyfrifol - gadewch iddynt sychu mewn man heulog 3m i ffwrdd o ddŵr. Gellir eu compostio neu losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl eu sychu’n llwyr.
Peidiwch â thorri’r gyfraith - ‘Mynd at Wraidd y Mater’- peidiwch â chael gwared ar blanhigion dŵr estron goresgynnol yn y gwyllt na’u symud i byllau eraill, neu efallai y byddwch yn euog o drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.
Rhybudd Rhywogaeth
Rhowch wybod gyda llun, os ydych chi’n credu eich bod wedi ei weld, gan ddefnyddio ap neu wefan iRecord.