Cimwch afon America
Pacifastacus leniusculus
Cynefin
Y mwyafrif o gynefinoedd dŵr croyw.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Ymddangosiad tebyg i gimwch, yn debyg i'r cimwch afon crafanc-wen brodorol, ond mae'r oedolyn yn llawer mwy (hyd at 16cm).
Mae’n frowngoch gyda smotyn gwyrddlas/gwyn bach ar ‘colfach’ y bodiau.
Mae ochr isaf bodiau’r oedolyn yn goch llachar.
Dosbarthiad
Yn eang ledled Lloegr. Dosbarthiad mwy ar wasgar yng Nghymru.
Effeithiau
Effaith enfawr ar gimychiaid yr afon brodorol wrth iddynt ymledu afiechyd, disodli a hela. Yn difrodi glannau afonydd trwy dyrchu ac yn bwyta wyau pysgod brodorol ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn dyfrol.
Gair i Gall:
Peidiwch â thorri'r gyfraith - Peidiwch â chadw, cludo, gwerthu, rhyddhau, cyfnewid na defnyddio cimwch afon America byw, mae'n anghyfreithlon o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019, oni bai bod gennych drwydded gan CNC neu gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Cofiwch os ydych chi’n dal unrhyw gimwch afon America, i roi terfyn ar fywyd yn y man lle cawsant eu dal. Os na allwch derfynu, yna rhowch nhw yn ôl lle cawsant eu dal.
Cofiwch eich cyfrifoldeb fel defnyddiwr dŵr, dilynwch y canllawiau Edrych-Golchi-Sychu. Gall cimwch afon America gario ‘pla cimwch yr afon’, clefyd tebyg i ffwng sy’n farwol i’r cimwch afon crafanc-wen brodorol sydd mewn peryg. Gellir ei gario ar esgidiau gwlyb ac offer arall.
Rhowch wybod os welwch un, gyda llun, gan ddefnyddio ap LERC Cymru.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.