Jac y Neidiwr
Impatiens glandulifera
Cynefin
Glannau afonydd, coedwigoedd llaith a chynefinoedd llaith eraill.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Planhigyn blynyddol tal (hyd at 2m) gyda blodau pinc persawrus.
Yn tyfu mewn clystyrau trwchus.
Dail main ag ochrau danheddog yn tyfu ar goesau sy’n wag a brau ac yn aml yn binc-goch.
Ddiwedd yr haf mae pennau hadau aeddfed yn ffrwydro. Yn y gaeaf gellir ei adnabod o’i weddillion sy’n debyg i wair a gwreiddiau parhaus, unigryw.
Dosbarthiad
Yn eang ac yn gyffredin ledled y DU cyfan.
Effeithiau
Yn disodli rhywogaethau brodorol trwy ffurfio clystyrau trwchus, a all amharu llif afonydd a chynyddu'r risg o lifogydd. Gall gweddillion wedi gwywo dros y gaeaf adael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydiad.
Gair i Gall:
Peidiwch â thorri'r gyfraith - Mae'n drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 i blannu neu achosi tyfiant Jac y Neidiwr. Gallai hyn ddigwydd trwy symud pridd neu ddeunydd planhigion arall sy'n cynnwys hadau'r planhigyn.
Peidiwch ag aflonyddu’r hadau. Cyn i bennau hadau aeddfedu, tynnwch â llaw a'i adael ar bapur i sychu neu dorri/strimio Jac y Neidiwr o dan y nod cyntaf a'i adael i sychu. Gellir ei gompostio neu ei losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl ei sychu’n llwyr.
Cofiwch gadw gafael ar Jac y Neidiwr yn ddiogel a’i waredu mewn safle gwastraff trwyddedig os yw am gael ei symud o'r safle.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.