Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS)
Help i atal Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) rhag lledaenu ar Wastadeddau Gwent gan roi gwybod os welwch un
Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) yw unrhyw rywogaeth nad yw'n frodorol i'r DU a all ledaenu gan achosi niwed i'r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd ac ein ffordd o fyw.
Mae rhewynau a ffosydd cysylltiedig yng Ngwastadeddau Gwent yn bwysig iawn i fywyd gwyllt, ond hefyd yn golygu y gallai INNS ymledu yn gyflym. Rydym am sicrhau bod bygythiadau gan rywogaethau estron goresgynnol i fywyd gwyllt naturiol Gwastadeddau Gwent yn cael eu deall, eu rheoli a bod effeithiau yn y dyfodol yn cael eu lleihau.
Er mwyn amddiffyn Gwastadeddau Gwent mae’n allweddol i atal INNS rhag gwreiddio a lle bo hynny'n ymarferol, rheoli’r rhai sydd eisoes wedi gwreiddio. Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i adnabod rhai o'r INNS sydd wedi’u darganfod eisoes ar Wastadeddau Gwent a rhai all fod yn newydd-ddyfodiaid y dylech fod yn wyliadwrus iawn ohonynt. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i weithredu er mwyn helpu i atal INNS rhag lledaenu.
Gwnewch Eich Rhan!
Sut i helpu i fynd i'r afael ag INNS:
Bioddiogelwch
Mae bioddiogelwch yn helpu i atal INNS rhag lledaenu a gall fod mor syml â glanhau eich esgidiau neu sychu'ch offer yn drylwyr. Edrychwch ar dudalennau Bioddiogelwch Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron neu cwblhewch yr e-ddysgu bioddiogelwch am ddim yma ar www.nonnativespecies.org/elearning/
Dilynwch ymgyrchoedd cenedlaethol
‘Edrych - Golchi - Sychu’
Edrychwch ar eich offer ar ôl bod mewn dŵr gan chwilio am fwd, anifeiliaid dŵr neu ddeunydd planhigion. Tynnwch unrhyw beth y byddwch yn ei ddarganfod, a'i adael ar y safle.
Golchwch bopeth yn drylwyr cyn gynted ag y gallwch, gan roi sylw i rwydi, esgidiau, a mannau sy'n llaith ac yn anodd mynd atynt. Defnyddiwch ddŵr poeth os yn bosib.
Sychwch bopeth cyn hired ag y gallwch cyn eu defnyddio yn rhywle arall gan y gall rhai anifeiliaid a phlanhigion ymosodol fyw am bythefnos mewn amodau llaith.
‘Mynd at Wraidd y Mater’
‘Nabod eich planhigyn
Compostio â gofal
Stopio / Atal rhag ymledu
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am gofnodi INNS, gwybodaeth am rywogaethau, prosiectau cyfredol a thriniaeth ewch i wefan ‘Great Britain non-native species secretariat’: www.nonnativespecies.org
Gweler tudalennau Trwyddedu Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am fwy o wybodaeth am blanhigion ac anifeiliaid wedi eu rhestru o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019. www.naturalresources.wales
Wedi gweld Rhywogaethau Estron Goresgynnol?
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gweld unrhyw un o'r rhywogaethau yn y llyfryn hwn, gadewch i ni wybod.
Mae'n hawdd iawn anfon cofnod gyda'ch ffôn clyfar a’r ap cofnodion biolegol LERC Cymru.
Tynnwch lun os gallwch chi.
Gallwch hefyd anfon eich cofnod trwy'r Ganolfan Gofnodion Lleol: www.sewbrec.org.uk/