Clymog Japan

Reynoutria japonica var. japonica (Fallopia japonica)

knotweed Snowdonia National Park.jpg

Cynefin

Yn gyffredin ar dir diffaith, rheilffyrdd, ochrau ffyrdd a glannau afonydd.

Nodweddion Adnabod Allweddol

  • Yn tyfu mewn llwyni trwchus sy'n cyrraedd 2.5-3m o uchder.

  • Mae’r coesau yn frith o smotiau porffor, tebyg i fambŵ, yn tyfu mewn siâp igam-ogam. Mae dail yn siâp tarian ac yn wyrddlas.

  • Siâp picell sydd i dyfiant newydd.

  • Cynhyrchir llawer o glystyrau o flodau gwyn yn yr haf.

Dosbarthiad

Yn eang ac yn gyffredin ledled y DU.

Effeithiau

Yn disodli planhigion brodorol, yn cyfrannu at erydiad ar lannau afonydd, yn cynyddu’r perygl o lifogydd a difrod i adeiladau (gall dyfu trwy asffalt, concrit a brics).

Gair i Gall:

  • Cofiwch ddarllen tudalen we CNC: ‘Clymog Japan: Beth sydd angen ei wybod’ i gael gwybodaeth ar sut i reoli ac i atal y Clymog Japan rhag lledaenu: www.naturalresources.wales.

  • Cofiwch gadw gafael a chael gwared ar y Clymog Japan yn ddiogel mewn safle gwastraff trwyddedig yn unol â deddfwriaeth gwastraff. 

  • Peidiwch â cheisio tyrchu, strimio na thorri’r Clymog Japan. Gall hyd yn oed y darnau lleiaf o goes neu risom aildyfu.

  • Peidiwch â mynd â’r Clymog Japan i ganolfannau ailgylchu sy'n derbyn gwastraff o’r ardd gan y bydd yn llygru’r compost.

  • Peidiwch â lledaenu pridd sydd wedi'i lygru â rhisom y Clymog Japan - bydd y clymog yn aildyfu.

  • Peidiwch â thorri'r gyfraith - peidiwch â thipio gwastraff o’r ardd sydd wedi'i lygru â Chlymog Japan mewn ardaloedd gwledig. Os ydych chi'n achosi i Glymog Japan ledaenu, efallai y byddwch chi'n euog o drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.

EISOES YN BRESENNOL