Minc Americanaidd
Neovison vison
Cynefin
Cynefinoedd dyfrol, gan gynnwys yr arfordir, ond afonydd a llynnoedd yn bennaf.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Hyd y corff 30-50cm gyda ffwr du-frown tywyll sgleiniog a rhannau gwyn ar yr ên a’r gwddf. Mae'r gynffon tua hanner hyd y corff.
Mae’r baw yn 6-8cm o hyd, arogl siarp, siâp selsig, ond wedi'i rholio ac yn gorffen yn bigfain.
Yn bennaf i’w gweld gyda’r nos ac yn fywiog yn y cyfnos.
Dosbarthiad
Yn eang ar draws cynefinoedd dyfrol Prydain.
Effeithiau
Yn bwydo ar fywyd gwyllt brodorol gan gynnwys llygod pengrwn y dŵr, adar y môr, adar domestig a physgod.
Gair i Gall:
Peidiwch â thorri'r gyfraith - os ydych chi'n dal/trapio minc, ni allwch ei ryddhau yn ôl i'r gwyllt, mae'n anghyfreithlon o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Cofiwch mai dim ond pobl broffesiynol ddylai reoli mincod ac fel rhan o brosiectau rheoli mincod.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.