Cragen Las Resog

Dreissena polymorpha

Dreissena polymorpha_Paul Beckwith BWW.jpg

Cynefin

Afonydd yn llifo’n araf, camlesi, dociau, llynnoedd, cronfeydd dŵr ac weithiau pibellau dŵr a systemau oeri.

Nodweddion Adnabod Allweddol

  • Yn debyg o ran siâp i gregyn gleision morol, ond yn llai o ran maint (fel arfer tua 30mm).

  • Cragen siâp ‘D’ nodedig, gyda streipiau o resau golau a thywyll o las/brown/melyn-gwyn.

Dosbarthiad

Cyffredin ledled Lloegr, prin yng Nghymru a'r Alban.

Effeithiau

Mae'n glynu mewn clystyrau i unrhyw beth solet o dan y dŵr fel gwaith maen, cerrig neu byst pren. Mae cregyn yn llenwi pibellau ac yn effeithio ar gatiau clo a strwythurau cadarn eraill mewn dŵr. Yn hidlo bwyd o'r dŵr mor effeithiol fel nad oes llawer o fwyd ar ôl yn y dŵr ar gyfer larfa clêr Mai, larfa pryf caddis, a physgod bach.

Gair i Gall:

  • Cofiwch eich cyfrifoldeb fel defnyddiwr dŵr. Dilynwch y canllawiau gan Edrych - Golchi - Sychu eich offer a’ch dillad.


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.

NEWYDD-DDYFODIAID POSIB