Letys y Dŵr
Pistea stratiotes
Cynefin
Llynnoedd, pyllau, camlesi ac afonydd sy'n llifo’n araf yn llawn maetholion.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Yn edrych fel letysen fach.
Mae'n arnofio ar yr wyneb mewn siâp rhosedau, hyd at 30cm ar draws, gyda dail gwyrddlas trwchus, meddal a blewog.
Dosbarthiad
Cofnodion ar wasgar, yn bennaf yn ne Lloegr, 1 cofnod yn Ne Cymru - ond nid yw’n goroesi ein hinsawdd bresennol.
Effeithiau
Yn ffurfio carped yn gyflym ar wyneb y dŵr gan gadw allan golau ac ocsigen ac yn lleihau bioamrywiaeth. Gall hefyd fod yn rhwystredig a lleihau cynhwysedd storio dŵr llifogydd.
Gair i Gall:
Peidiwch â phrynu o unrhyw siop/marchnad ar gyfer acwariwm a gerddi dŵr, yn aml wedi ei labelu fel ‘planhigyn yn ocsigeneiddio’.
Cofiwch edrych a yw'r planhigyn hwn yn bresennol yn eich pwll/acwariwm - mae’n union fel anghenfil mewn cuddwisg!
Cofiwch waredu planhigion estron goresgynnol yn gyfrifol - gadewch iddynt sychu mewn man heulog 3m i ffwrdd o ddŵr. Gellir eu compostio neu losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl eu sychu’n llwyr.
Peidiwch â thorri’r gyfraith - ‘Mynd at Wraidd y Mater’- peidiwch â chael gwared ar blanhigion dŵr estron goresgynnol yn y gwyllt na’u symud i byllau eraill. Os ydych chi’n achosi i Letys y Dŵr ledaenu, efallai y byddwch yn euog o drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.