Cacynen Asia

Vespa velutina

Asian_hornet_(Vespa_velutina) charles j sharp.jpg

Cynefin

Nythod fel arfer yn uchel mewn coed a strwythurau o waith dyn.

Nodweddion Adnabod Allweddol

  • Cacynen feirch nodedig, llai (25mm) na'n rhywogaethau brodorol.

  • Corff melfedaidd tywyll, heblaw am y 4ydd rhan sy'n felyn.

  • Blaen y coesau yn felyn llachar.

Dosbarthiad

Dim ond llond llaw o gofnodion y DU sydd wedi'u cadarnhau hyd heddiw. Dim un yng Nghymru ond wedi'u cofnodi yn Swydd Gaerloyw.

Effeithiau

Ysglyfaethwr ymosodol iawn o bryfed brodorol fel y gardwenynen fain prin sydd i'w chael ar Wastadeddau Gwent.

Gair i Gall:

  • Peidiwch â tharfu ar nyth sydd â gwenyn ynddo.

  • PERYGL! Mae'r wenynen meirch yma’n pigo. Chwiliwch am gyngor o dudalen we GBNNSS ‘Species Alert’.


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.

NEWYDD-DDYFODIAID POSIB
 

RHYBUDD RHYWOGAETH

Rhowch wybod gyda llun, os ydych chi’n credu eich bod wedi ei weld, gan ddefnyddio'r ap am ddim i’r iOS neu Android neu'r ap a'r wefan iRecord.

Cacynen Asia (© Danel Solabarrieta)

Cacynen Asia (© Danel Solabarrieta)

Cacynen Asia (chwith) Cacynen Ewrop (dde). Mae abdomen y gacynen Asia bron yn hollol dywyll heblaw am y 4edd rhan.

Cacynen Asia (chwith) Cacynen Ewrop (dde). Mae abdomen y gacynen Asia bron yn hollol dywyll heblaw am y 4edd rhan.