Corchwyn Seland Newydd
Crassula helmsii
Cynefin
Dyfrol (naill ai o dan y dŵr neu uwchben wyneb y dŵr) mewn cyrff dŵr llonydd neu’n llifo’n araf, neu mewn pridd ar ymyl pyllau neu lynnoedd.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Dail hyd at 2cm o hyd mewn parau gyferbyn a’i gilydd.
Matiau nodedig o ddail tew wrth ymddangos uwchben wyneb y dŵr neu mewn pridd.
Mae dail o dan y dŵr yn llai hawdd i'w adnabod. Gyda blodau bach gwyn.
Dosbarthiad
Yn eang ledled Lloegr, llai cyffredin yng Nghymru.
Effeithiau
Mae matiau trwchus yn disodli planhigion brodorol a gallant rwystro draenio gan achosi llifogydd.
Gair i Gall:
Peidiwch â phrynu o unrhyw siop/marchnad ar gyfer acwariwm a gerddi dŵr. Mae wedi ei wahardd rhag gwerthu yn y DU.
Cofiwch edrych a yw'r planhigyn hwn yn bresennol yn eich pwll/acwariwm - mae’n union fel anghenfil mewn cuddwisg!
Cofiwch waredu planhigion estron goresgynnol yn gyfrifol - gadewch iddynt sychu mewn man heulog 3m i ffwrdd o ddŵr. Gellir eu compostio neu losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl eu sychu’n llwyr.
Cofiwch eich cyfrifoldeb fel defnyddiwr dŵr. Dilynwch y canllawiau gan Edrych – Golchi - Sychu eich offer a’ch dillad.
Peidiwch â thorri’r gyfraith - ‘Mynd at Wraidd y Mater’- peidiwch â chael gwared ar blanhigion estron goresgynnol yn y gwyllt na’u symud i byllau eraill. Os ydych chi'n achosi i Orchwyn Seland Newydd ledaenu, efallai y byddwch yn euog o drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.