Alan Pêr
Petasites fragrans
Cynefin
Glaswelltir garw - ochrau ffyrdd, ar gyrion coedwigoedd a llethrau rheilffyrdd.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Yn ffurfio dail mawr siâp calon. Yn y gaeaf, clystyrau o flodau pinc-porffor bach yn arogli o fanila.
Yn lledaenu trwy goesau canghennog o dan y ddaear, nid trwy wasgaru hadau.
Yn gallu lledaenu dros 1m y flwyddyn.
Dosbarthiad
Yn gyffredin yn lleol yng Nghymru a Lloegr.
Effeithiau
Yn lledaenu i ffurfio clystyrau trwchus sy'n disodli rhywogaethau brodorol, gan leihau bioamrywiaeth.
Gair i Gall:
Peidiwch â lledaenu pridd sydd wedi'i lygru ag Alan Pêr - gall hyd yn oed y darnau lleiaf o’r rhisom wedi'i dorri aildyfu.
Cofiwch ei dynnu â llaw neu’i dyrchu a'i adael i sychu ar bapur. Gellir eu compostio neu losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl eu sychu’n llwyr.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.