Efwr Enfawr
Heracleum mantegazzianum
Cynefin
Ar hyd nentydd, afonydd, ar dir diffaith a phorfeydd garw.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Wedi’i enwi’n briodol fel ‘cawr’, mae gan yr aelod hwn o deulu’r gorthyfail goesau blodeuol 2-3m o uchder gyda blodau hyd at 80cm mewn diamedr.
Mae'r dail isaf yn aml yn 1m neu fwy o faint.
Mae'r rhywogaeth yn atgenhedlu'n llwyr gan hadau, gydag un planhigyn yn cynhyrchu tua 20,000 o eginblanhigion.
Dosbarthiad
Yn eang ledled Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Effeithiau
Yn disodli rhywogaethau brodorol trwy ffurfio clystyrau trwchus, gan leihau amrywiaeth rhywogaethau. Mae'r planhigyn yn cynhyrchu sudd llyswenwynol, a phetai’n cyffwrdd â chroen dynol a'i gyfuno ag ymbelydredd UV, mae’n achosi llosgiadau croen sy'n dod dro ar ôl tro a all fod yn ddifrifol.
Gair i Gall:
PEIDIWCH Â’I GYFFWRDD - peryglus! Gwisgwch offer amddiffynnol bob amser - gweler canllawiau Llywodraeth Cymru: ‘Efwr enfawr: ei reoli ar eich tir’.
Peidiwch â thorri'r gyfraith - Mae'n drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 i blannu neu achosi tyfiant yr Efwr Enfawr yn yr amgylchedd. Gallai hyn ddigwydd trwy symud pridd wedi’i lygru neu ddeunyddiau planhigion eraill.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.