Terapiniaid Clustgoch, Bol Melyn & Cumberland
Trachemys scripta elegans
Cynefin
Ystod eang o gynefinoedd dŵr croyw llonydd neu'n llifo’n araf.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Mae gan y terapin clustgoch streipen goch nodedig y tu ôl i'r llygad, gyda marciau streipïog ar hyd y coesau a thraed bodiog.
Gallant dyfu i 30cm o hyd.
Dosbarthiad
Nid oes unrhyw boblogaethau bridio wedi’u cadarnhau, ond cofnodwyd terapiniaid nad ydynt yn bridio mewn rhai rhannau o'r DU gan gynnwys Gwastadeddau Gwent a Chaerdydd.
Effeithiau
Maent yn hollysyddion sy’n lledaenu’n gyflym, ac yn bwyta amffibiaid, pysgod, adar y dŵr ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn brodorol.
Gair i Gall:
Peidiwch â bridio, gwerthu na chyfnewid. Os oes gennych terapin fel anifail anwes, gall fyw hyd at ddiwedd ei fywyd naturiol gyda chi, ar yr amod ei fod yn cael ei gadw'n ddiogel a’i atal rhag atgenhedlu.
Peidiwch â thorri'r gyfraith - gallwch fod yn euog o drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 os ydych chi’n rhyddhau eich terapin i'r amgylchedd.
Cofiwch ddarllen tudalen we CNC ar drwyddedu rhywogaethau i gael gwybodaeth am rywogaethau estron goresgynnol, gan gynnwys terapiniaid (gweler y dudalen gefn am y ddolen).
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.