Cranc Manegog Tsieina
Eriocheir sinensis
Cynefin
Ffrydiau llanw, afonydd ac aberoedd. Mae oedolion yn mudo i aberoedd a'r môr i fridio.
Nodweddion Adnabod Allweddol
Bodiau wedi'u gorchuddio â haen o wallt mân, ac yn edrych yn debyg i faneg.
Mae'r corff yn frown/gwyrdd olewydd, hyd at 8cm o led.
Coesau yn hir ac yn flewog.
Dosbarthiad
Wedi'u gwasgaru ledled Lloegr a Gogledd Cymru. Dim ond un cofnod yn Ne Cymru hyd heddiw (2020).
Effeithiau
Gallant deithio pellteroedd mawr o'r môr, gan gynnwys systemau afonydd ac ar draws tir sych. Mae hyn yn golygu bod bob corff dŵr ym Mhrydain, gan gynnwys rhwydwaith rhewyn a ffos yng Ngwastadeddau Gwent, mewn peryg o gael eu gorchfygu. Maent yn niweidio glannau/amddiffynfeydd llifogydd trwy dyrchu, yn siltio gwelyau graean a ddefnyddir gan bysgod i silio, ac yn disodli’r cimwch afon crafanc-wen brodorol.
Gair i Gall:
Peidiwch â phrynu o unrhyw siop/marchnad ar gyfer acwariwm a gerddi dŵr. Mae yn erbyn y gyfraith i werthu, cyfnewid, defnyddio neu gadw sbesimenau byw.
Peidiwch â thorri'r gyfraith. Os ydych chi’n dal unrhyw granc manegog Tsieina, rhaid rhoi terfyn ar fywyd yn y man lle cawsant eu dal. Os na allwch derfynu, yna rhowch nhw yn ôl lle cawsant eu dal.
Rhowch wybod os welwch un, gyda llun, gan ddefnyddio ap LERC Cymru.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.