Pluen Parot

Myriophyllum aquaticum

parrots feather GBNNSS.jpg

Cynefin

Dŵr llawn maetholion sy'n llonydd neu'n llifo’n araf.

Nodweddion Adnabod Allweddol

  • Dail llachar gwyrddlas, tebyg i bluen, yn troelli wrth dyfu.

  • Blodau bach, gwyn ar fôn y dail rhwng Mai ac Awst.

  • Gwreiddiau brown yn bresennol o amgylch nodau’r coesau sydd o dan y dŵr.

Dosbarthiad

Yn eang yng Nghymru a Lloegr.

Effeithiau

Yn achosi llifogydd trwy rwystro sianeli dŵr a sianeli draenio. Yn gallu cymryd drosodd corff dŵr yn gyflym, gan ddisodli rhywogaethau brodorol.

Gair i Gall:

  • Peidiwch â phrynu o unrhyw siop/marchnad ar gyfer acwariwm a gerddi dŵr. Mae yn erbyn y gyfraith i’w werthu.

  • Cofiwch edrych a yw’r planhigyn hwn yn bresennol yn eich pwll/acwariwm - mae’n union fel anghenfil mewn cuddwisg!

  • Cofiwch waredu planhigion estron goresgynnol yn gyfrifol - gadewch iddynt sychu mewn man heulog 3m i ffwrdd o ddŵr. Gellir eu compostio neu losgi (yn unol â chyfyngiadau lleol) ar ôl eu sychu’n llwyr.

  • Peidiwch â thorri’r gyfraith - ‘Mynd at Wraidd y Mater’- peidiwch â chael gwared ar blanhigion estron goresgynnol yn y gwyllt na’u symud i byllau eraill. Os ydych chi’n achosi i Bluen Parot ledaenu, efallai y byddwch yn euog o drosedd o dan Orchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019.


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r GB Non-Native Species Secretariat website.

EISOES YN BRESENNOL