Chwilen blymio fawr

Dytiscus marginalis

Chwilen ddyfrol fawr iawn yw'r chwilen blymio fawr sy'n mesur hyd at 3.5cm o hyd. Mae ganddyn nhw gorff llyfn siâp almon. Maent yn dywyll, brown olewydd gydag ymyl felynaidd barhaol o amgylch y thoracs a'r cloradenydd. Mae cloradenydd y benywod yn rhesog, ond mae cloradenydd y gwrywod yn llyfn. Ar yr ochr isaf, maent yn felyn, ac mae gan eu coesau ôl ymylon blewog sy'n eu helpu i nofio.

Gellir gweld y chwilen blymio fawr mewn dŵr sy'n symud yn araf a phyllau, ac yn achlysurol iawn mewn llif cyflym. Mae chwilod aeddfed yn hedfan gyda'r nos i chwilio am gyrff dŵr eraill i gytrefu.

Mae oedolion i’w gweld trwy gydol y flwyddyn, ond yn tueddu i fod yn llai bywiog yn ystod y misoedd oerach. Maent yn gaeafu mewn is-haenau ar waelod pyllau ac ati ac yn ymddangos yn gynnar yn y flwyddyn. Yn y gwanwyn, mae'r fenyw yn dodwy wyau mewn ceudodau trwy ddefnyddio ei wyddodydd i dorri i mewn i goesau planhigion dyfrol.

Gallai’r larfa dyfu hyd at 60mm o hyd ac maent yn lliw melynaidd-frown. Mae ganddyn nhw genau mawr pigfain, siâp cryman a ddefnyddir i ddal eu hysglyfaeth. Mae ensymau treulio yn cael eu pwmpio i gorff yr ysglyfaeth sy'n toddi organau mewnol y prae, ac mae'r larfa yn sugno'r 'cawl' sy'n deillio o hynny. Maent yn defnyddio pridd llaith wrth ymyl y dŵr i chwileru.

 

Beth maen nhw'n ei fwyta

Mae oedolion a larfa yn greaduriaid cigysol sy'n bwyta ystod o fywyd dyfrol gan gynnwys penbyliaid, pryfed dŵr eraill a physgod bach. Mae larfa’r chwilen blymio fawr hefyd yn ganibalaidd, ac fe wnaiff fwyta larfa chwilen blymio arall.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Gellir gweld y chwilod trawiadol hyn trwy gydol y flwyddyn, ond mae'r niferoedd ar eu huchaf ym mis Mai a Medi.

  • Maent yn gyffredin ac i’w gweld yn y mwyafrif o gynefinoedd dyfrol llonydd neu araf.

  • Cadwch lygad wrth iddynt wthio eu habdomenau allan o wyneb y dŵr. Maent yn ail-lenwi'r cyflenwad aer sy'n cael ei storio mewn gwagle o dan eu cloradenydd. Mae'r larfa hefyd yn tueddu i orwedd ychydig o dan yr wyneb gyda phen eu habdomen yn gwthio uwchben y dŵr er mwyn gallu anadlu.

  • Byddwch yn ofalus os byddwch chi'n codi un – mae’r oedolion yn gollwng hylif drewllyd o'r abdomen pan fydd rhywun yn eu dychryn, ac mae gan y larfa enau ffyrnig!

!Cymerwch ofal ger dŵr!

Map yn dangos dosbarthiad 10km y chwilen blymio fawr yng Nghymru

 

Statws cyfreithiol

Dim

 

Rhywogaethau tebyg

Mae dros 470 o rywogaethau o chwilod dyfrol yn gysylltiedig â dŵr, gyda 100 o rywogaethau o chwilod Dytiscus. Maent gan amlaf tua 3-15mm o hyd, cymaint yn llai na'r chwilen blymio fawr.

Mae’r chwilen fwgan (whirligig) yn gyffredin iawn ac yn hawdd ei adnabod gan ei bod yn nofio’n gyflym mewn patrymau crwn ar wyneb y dŵr. Maent yn mesur tua 7mm o hyd ac yn llawer llai na'r chwilen blymio fawr.

 

A wyddost ti?

Mae gan y chwilen blymio fawr gwrywaidd gwpanau sugno ar ei goesau blaen sy'n galluogi iddo afael yn sownd wrth baru. Nid oes gan chwilod benywaidd y cwpanau hyn.

 

Dolenni eraill