Gwenynbry mawr
Bombylius major
Mae gwenynbryfed yn anifeiliaid di-asgwrn-cefn rhyfedd eu golwg; mae gan y gwenynbry aeddfed gorff blewog crwn, coesau heglog hir a blewog, adenydd patrymog, a proboscis (neu dafod) hir iawn. Mae'n dynwared gwenyn yn gorfforol a hefyd yn mwmian yn uchel, ond pryfyn ydw mewn gwirionedd. Mae eu hymddangosiad yn arwydd pendant bod y gwanwyn wedi cyrraedd.
Mae gwenynbryfed yn tueddu i hofran uwchben blodau ac yn defnyddio eu tafodau hirion i fwydo. Wrth orffwys, maent yn dal eu hadenydd allan ar ongl lydan; ac yn wahanol i wenyn, pan fyddant yn bwydo maent yn eistedd ar y blodyn â'u coesau hir. Gwahaniaeth arall yw bod ganddyn nhw un pâr o adenydd, tra bod gan wenyn ddau bâr.
Mae'n debyg bod gwenynbryfed yn dynwared gwenyn er mwyn edrych yn fwy peryglus nag ydyn nhw felly mae ysglyfaethwyr yn eu hosgoi. Mae hefyd yn eu helpu i fynd yn agos at nythod a lloches eu rhywogaethau lletyol. Nid yw'r pryf yn brathu, yn pigo nac yn lledaenu afiechyd, maent yn gwbl ddiniwed i bobl.
Gellir gwahaniaethu gwenynbry mawr â gwenynbryfed Bombylius eraill gan yr ymyl brown tywyll cryf ar flaen yr adenydd (a dyna pam mae’n cael ei adnabod fel y dark-edged bee-fly yn Saesneg!). Mae’n bryf o faint canolig sy'n mesur 6.3–12mm o hyd, ac mae eu proboscis anferth yn mesur 5.5 i 7.5mm o hyd. Mae llygaid gwrywod yn cyffwrdd ar ben eu pennau tra bod llygaid benywod yn llawer mwy gwahanedig.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae pob gwenynbryfed yn barasitiaid o wenyn unig (fel Andrena spp.) a gwenyn meirch. Mae gwenynbryfed benywaidd yn hofran ychydig fodfeddi uwchben ardaloedd nythu gwenyn turio ac yn taflu eu hwyau i'r ddaear. Mae'n gorchuddio'r wyau â llwch cyn iddynt ddodwy i ddarparu cuddliw ac o bosib ychwanegu pwysau arnyn nhw. Ar ôl deor, mae’r larfa yn ymlusgo yn bellach i mewn i’r nyth ac yn bwyta'r gwenyn ifanc o dan y ddaear, cyn chwileru ac ymddangos o'r lloches y gwanwyn canlynol fel oedolion.
Mae proboscis yr oedolion wedi’i addasu i yfed y neithdar o amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol cynnar fel briallu, glesyn y coed, draenen ddu, a blodau’r geiriosen. Maent yn bryfed peillio pwysig iawn.
Ble a phryd i'w gweld
Gwelir y gwenynbryfed hyn yn aml mewn gerddi, lotments a choedwigoedd collddail.
Maent yn hedfan yn gynnar yn y tymor. Gellir eu gweld o fis Mawrth (weithiau hyd yn oed Chwefror) hyd ddiwedd Mai.
Edrychwch amdanynt ar ddiwrnodau heulog cynnes.
Map yn dangos dosbarthiad 10km y gwenynbry mawr yng Nghymru
Rhywogaethau tebyg
Mae'r gwenynbryfed eraill yn llawer prinnach yn y DU ac nid oes ganddynt yr ymyl tywyll ar hyd blaen yr adenydd. Mae gan y gwenynbry Dotiog (Bombylius discolour) smotiau ar hyd ei adenydd, ac mae gan y benywod res o ddotiau gwyn ar hyd pen yr abdomen. Mae gwenynbry y Gorllewin (Bombylius canescens) yn hedfan yn hwyrach yn y tymor (dechrau mis Mai i ganol Awst). Mae'n lliw brown bwff, ac mae ganddo adenydd clir a blew du y tu ôl i'r llygaid.
Cadwch lygad am wenyn, mae’n hawdd eu camgymryd am wenynbryfed - mae ganddynt antenau hirach ac adenydd clir. Mae ganddyn nhw hefyd goesau byrrach, mwy trwchus a mwy blewog.
A wyddost ti?
Mewn rhannau o East Anglia, gelwir gwenynbryfed yn beewhals oherwydd eu proboscis hir syth (tebyg i ysgithr).
Arolygon eraill