Cudyll coch

Falco tinnunculus

Enwau eraill: Y Genlli Goch, Curyll y Gwynt, Bod Llwydgoch

Mae gan yr adar ysglyfaethus bach hyn blu lliw brown castan gwelw gyda smotiau tywyll. Maent yn mesur 31-39cm o hyd, yr adenydd yn mesur 65-82cm, ac maen nhw'n pwyso 135-315g.

Mae gan wrywod ben llwydlas a rhesen ddu ar draws y gynffon, tra bod y benywod yn bennaf yn frown i gyd. Mae eu pig bachog yn llwyd gyda blaen du. Mae eu llygaid yn frown tywyll gyda chylch llygad melyn, a'u coesau a'u traed yn felyn llachar. Wrth hedfan mae ganddyn nhw adenydd pigfain hir. Mae’r adar ifanc yn debyg i fenywod aeddfed ond mae’r ochr uchaf yn fwy browngoch melynaidd gyda bron mwy rhesog amlwg.

Yn aml gwelir cudyll coch yn hofran dros laswelltiroedd ac yn aml hefyd yn agos at ochrau ffyrdd. Maent yn agor eu cynffon yn llydan fel ffan wrth hofran. Fe'u gwelir mewn amrywiaeth eang o gynefinoedd gan gynnwys cefn gwlad, trefi a phentrefi. Maent yn nythu mewn tyllau mewn coed, hen adeiladau a nythod brain gwag, ac yn dodwy 3-6 o wyau llyfn gwyn gyda marciau brown.

 

Beth maen nhw'n ei fwyta

Maen nhw'n bwyta llygod, llygod pengrwn, llŷg, adar bach ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Maen nhw'n arbenigo mewn dal llygod pengrwn ac mae angen iddyn nhw fwyta sawl mewn diwrnod i oroesi. Mae gan y cudyll coch olwg rhagorol a gallai weld ysglyfaeth fach o 50m i ffwrdd. Gallai hefyd weld golau uwchfioled (anweledig i'r llygad dynol) sy'n golygu y gall ganfod marciau wrin a adawyd gan gnofilod ar lawr.

 

Ble a phryd i'w gweld

  • Gellir eu gweld trwy gydol y flwyddyn, rhwng Ionawr a Rhagfyr.

  • Cadwch lygad amdanynt yn hofran dros ochrau ffyrdd, ond hefyd glaswelltiroedd, tir fferm, ucheldiroedd ac ardaloedd trefol.

Map yn dangos dosbarthiad 10km y cudyll coch yng Nghymru

 

Statws cyfreithiol

Wedi'u dosbarthu yn y DU fel ‘Ambr’ o dan Adar o Bryder Cadwraethol 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).

 

Arwyddion Maes

Galwadau

Mae gan y cudyll coch alwad 'kee-kee-kee' crebachlyd sy'n fyrrach na galwadau hebog yr ehedydd a chudyll bach.

 

Rhywogaethau tebyg

Hebog yr ehedydd (Falco subbuteo)

Aderyn ysglyfaethus bach arall yw hebog yr ehedydd, yn mesur 33-38cm o hyd a’r adenydd yn mesur 87cm. Ar yr ochr uchaf, mae'n llwydlas ac yn welw ar yr ochr isaf, gyda streipiau du ar y bol a 'throwsus' coch-rhydlyd. Mae ganddo ben llwyd-frown, gwddf a bochau gwyn, mwstash tywyll a mwgwd. Mae'r pig bachog yn ddu a melyn, tra bod eu hadenydd yn bigfain. Mae hebog yr ehedydd yn edrych yn hir a phigfain wrth hedfan ac yn aml mae'n cael ei gymharu â gwennol ddu fawr yn yr awyr, yn ystwyth ac acrobatig dros ben. Mae’n rhywogaeth ymfudol, yn dod i'r DU yn yr haf i fridio, ac yn gaeafu yn Affrica. Fe'u gwelir yn aml ger cynefinoedd gwlyptir gan fod gweision y neidr yn ffynhonnell fwyd pwysig.

 

Cudyll bach (Falco columbarius)

Mae’r cudyll bach yn aderyn ysglyfaethus bach iawn, o gwmpas maint aderyn du. Mae’n mesur 25-31cm o hyd a’i adenydd yn mesur 50-62cm. Ar yr ochr uchaf,, mae’r gwryw aeddfed yn llwydlas, gyda phen llwyd ac yn lliw hufen/oren ar yr ochr isaf gyda streipiau du. Llwyd tywyll yw ei gynffon, gyda rhesen ddu lydan, ac mae ganddo streipen wen uwchben ei lygaid. Mae benywod yn llwyd-frown yn bennaf, gyda streipiau tywyll ar yr ochr isaf. Mae eu hadenydd yn fwy smotiog na'r gwrywod. Mae gan y cudyll bach gynffon fain ac adenydd llydan sy’n bigfain ar y pen; mae coesau a thraed yr oedolion yn felyn, ond yn fwy gwyrdd ymysg yr ifanc. Maent yn nythu ar rostiroedd, ac yn gaeafu ar gorsydd arfordirol a thir fferm yn yr iseldiroedd.

 

A wyddost ti?

Yr hen enw gwlad yn Saesneg ar gyfer cudyll coch yw ‘windhover’. Mae hyn oherwydd ei ystwythder cryf yn yr awyr a’r gallu i hofran mewn gwyntoedd cryfion a chadw ei ben yn llonydd wrth ddilyn trywydd prae. Mae eu cynffon yn ffurfio siâp ffan nodweddiadol i'w helpu i wneud hyn.

 

Dolenni eraill