Titw barfog
Panurus biarmicus
Enwau eraill: Pela barfog, Barfog y cawn
Mae'r titw barfog gwrywaidd yn lliw brown sinamon gyda chynffon brown hir. Mae ganddo gorff crwn a phen llwyd golau, gwddf gwyn, 'mwstash' du (yn hytrach na barf) a phig a llygaid melyn.
Mae benywod yn lliw brown bwff ac yn llai lliwgar na gwrywod, ac nid oes ganddynt y mwstash. Mae rhai ifanc yn debyg iawn i fenywod aeddfed, ond mae ganddyn nhw gefnau duon a rhannau duon ar eu cynffon, a’r plu yn fwy melynfrown.
Maent yn hedfan yn chwit-chwat, i fyny ac i lawr yn afreolaidd a churiadau adenydd brysiog. Gallant ddringo coesau cyrs yn chwim dros ben, ac adeiladu eu nythod yn isel ymysg y cyrs. Maent yn adeiladu nyth siâp cwpan o ddail marw, wedi'i orchuddio â blodau, plu a blew. Yn arferol, maent yn dodwy tua 4-8 o wyau lliw gwyn/hufen gyda marciau brown.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae titw barfog yn bwydo yn bennaf ar bryfed, hadau glaswellt ac ambell waith yn bwyta aeron. Yn ystod tymor bridio’r haf maent yn bwyta anifeiliaid di-asgwrn-cefn yn bennaf fel pryfed, malwod, lindys a gwybed Mai. Yn y gaeaf, maent yn newid eu diet wrth i niferoedd anifeiliaid di-asgwrn-cefn ostwng, ac yn dechrau bwydo'n bennaf ar hadau sy'n uchel ar goesau cyrs. Gellir gweld titw barfog yn llyncu graean i helpu i falu plisgyn caled yr hadau.
Ble a phryd i'w gweld
Gellir gweld yr aderyn trawiadol hwn trwy gydol y flwyddyn, ac fe'i gwelir gan amlaf ger yr arfordir.
Mae i'w gael yn bennaf mewn gwelyau cyrs mawr, lle mae'n bwydo ar bryfed a hadau cyrs.
Map yn dangos dosbarthiad 10km y titw barfog yng Nghymru
Statws cyfreithiol
Wedi'u dosbarthu yn y DU fel ‘Gwyrdd’ o dan Adar o Bryder Cadwraethol 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015). Wedi'u gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.
Arwyddion Maes
Maent yn adar swnllyd iawn ac mae eu galwadau tincian yn aml yn datgelu eu lleoliad.
Rhywogaethau tebyg
Dim, mae'r gwrywod yn nodedig iawn.
A wyddost ti?
Nid titw mewn gwirionedd yw’r titw barfog, ond credir eu bod â chysylltiad agosach â'r ehedydd. Mae grŵp teulu unigryw wedi cael ei greu yn arbennig iddyn nhw.