Saethlys

Sagittaria sagittifolia

Enwau eraill: Saeth y Dwfr, Saethlys Saethddeilaidd

Mae saethlys yn blanhigyn dyfrol tal a geir yn aml mewn dŵr bas neu ar gyrion sianeli dŵr sy'n symud yn araf. Mae ganddo dri math gwahanol o ddeilen: siâp pen saeth sydd gan y dail uwchben y dŵr sy'n mesur 5-20cm o hyd ar goes hir; dail hirfain a thryloyw o dan y dŵr sy'n gallu mesur hyd at 80cm o hyd a 2cm o led; a dail arnofiol sy'n siâp gwaywffurf-hirgrwn.

Mae blodau saethlys yn ymddangos ym mis Gorffennaf i Awst, bodau bach yn mesur 2-3cm mewn diamedr yn unig gyda thri phetal gwyn a smotyn porffor/du ar y pen isaf y petal. Mae'r blodau i'w gweld mewn troellau o 3-5 o amgylch pigyn (raceme) sy'n mesur 30-80cm o daldra. Benywaidd yw’r blodau isaf gyda llawer o garpelau, tra bod y blodau uchaf yn wrywaidd ac yn tueddu i fod yn fwy gyda choesau hirach a llawer o friger porffor.

Mae'r planhigyn yn gaeafu gan flagur dan y dŵr wedi'u gwahanu.

Ble a phryd i'w gweld

Mae'r planhigyn blodeuol i'w gael mewn dŵr croyw llonydd neu’n llifo’n araf rhwng Mehefin a Medi, ond os hoffech weld y blodau, maent yn bresennol yn ystod mis Gorffennaf ac Awst yn unig.

Map yn dangos dosbarthiad 10km y saethlys yng Nghymru

!Cymerwch ofal ger dŵr!

 

Statws cyfreithiol

Dim

 

Rhywogaethau tebyg

Dim, mae'r dail yn nodedig iawn.

 

A wyddost ti?

Yn ôl Wikipedia, mae’r saethlys (S. sagittifolia) yn cael ei drin fel cnwd ar gyfer bwyd mewn rhai gwledydd, ac yn cael ei ddefnyddio mewn meddygaeth Tsieineaidd oherwydd ei briodweddau gwrth-ficrobaidd.

 

Dolenni eraill