Minc Americanaidd
Neovison vison
Mae'r minc yn rhywogaeth estron oresgynnol a ddihangodd (neu a ryddhawyd yn fwriadol) o ffermydd ffwr yn y 1950au a'r 1960au, ac sydd bellach yn bridio dros y rhan fwyaf o'r wlad. Mae’n anifail sydd ar ben ei hun gan amlaf ond yn defnyddio amrywiaeth o synau lleisiol pan mae mewn cysylltiad ag unigolion eraill (e.e. gwichian).
Mae’n famal bach, llyfn, gyda ffwr brown/du tywyll sgleiniog, trwyn main, gên fach wen a gwddf gwyn (‘bib’). Mae ganddo wyneb bach main, tebyg i ffured. Mae ei gorff yn mesur tua 30-47cm o hyd, a'r gynffon tua 13-23cm o hyd.
Mae mincod yn nofwyr da ac mae eu cuddfannau'n tueddu i fod yn agos at ddŵr. Maent yn defnyddio tyllau mewn coed, rhwydwaith o wreiddiau sydd yn y golwg neu holltau mewn creigiau i greu ffau. Mae rhai bach yn cael eu geni unwaith y flwyddyn yn unig, ym mis Ebrill / Mai, 4 i 6 ar y tro. Maent yn ddall, byddar a di-ffwr pan gânt eu geni, ond yn gwbl annibynnol erbyn 14 wythnos oed. Mae mincod yn llawer mwy tebygol o gael eu gweld na'r dyfrgi swil a chyfrinachgar.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae mincod yn ysglyfaethwyr rheibus, yn bwydo ar unrhyw beth y gallant ei ddal, gan gynnwys adar môr sy'n nythu ar y ddaear, ffowlyn domestig, molysgiaid, cramenogion a physgod, a'n llygod pengrwn y dŵr brodorol. Gallant ddinistrio poblogaethau adar sy'n nythu ar y ddaear a chael effaith niweidiol dros ben ar niferoedd llygod pengrwn y dŵr. Maent yn hela ar dir ac mewn dŵr ac mae ganddynt olwg rhagorol a wisgers sensitif.
Ble a phryd i'w gweld
Gellir gweld mincod trwy gydol y flwyddyn, ac er eu bod gan amlaf yn anifeiliaid y nos, maent hefyd yn fywiog trwy gydol y dydd. Mae cysylltiad cryf rhyngddynt â chynefinoedd dyfrol ac mae cuddfannau wedi'u lleoli wrth ymyl y dŵr, yn agos at eu prif ffynhonnell fwyd.
!Cymerwch ofal ger dŵr!
Map yn dangos dosbarthiad 10km y minc Americanaidd yng Nghymru
Statws cyfreithiol
Rhestrir mincod Americanaidd o dan Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mewn perthynas â Chymru, Lloegr a'r Alban. Mae'n drosedd rhyddhau neu ganiatáu i'r rhywogaeth hon ddianc i'r gwyllt.
Arwyddion Maes
Baw
Mae baw y minc yn arogli’n egr, aflan (a ddisgrifir fel rwber yn llosgi neu gig wedi pydru) sy’n wahanol iawn i faw’r dyfrgi sy'n arogli fel cymysgedd o de Jasmine a physgod ffres. Yn aml mae’r baw yn ymddangos yn droellog ac yn bigfain bob pen, ac yn cynnwys ffwr, esgyrn a phlu.
Olion traed
Gellir gweld olion traed y minc Americanaidd mewn tywod meddal a mwd ger ymylon meddal afonydd, nentydd a chyrff dŵr eraill. Mae ganddo bum bys troed ac yn aml yn dangos ôl crafangau sy'n ymestyn allan o bad siâp cilgant yn y canol. Weithiau gall yr ewinedd ymuno â phad y troed i greu ôl siâp deigryn. Mae'r olion traed yn mesur tua 3-3.5cm o led a 2.5-4cm o hyd.
Rhywogaethau tebyg
Dyfrgi
Mamal lled-ddyfrol mawr yw'r dyfrgi gyda chorff hir llyfn, cynffon silindrog hir bwerus, coesau byr, a thraed gweog mawr. Gallai fesur hyd at tua.1.5m o hyd a phwyso hyd at 12kg. Mae ganddo ben gwastad mawr, ac yn frown gyda gên a gwddf lliw brown golau/hufen.
Yn y dŵr, mae’r dyfrgi yn nofiwr ystwyth, ac ar dir yn gallu rhedeg yn rhyfeddol o gyflym dros bellteroedd byr. Mae’n nofio gyda'r rhan fwyaf o'i gorff o dan y dŵr, dim ond ei ben a'i gynffon i’w gweld, ac mae’n creu ton flaen wrth nofio. Mae’r minc yn nofio gyda hanner ei gorff uwchben y dŵr, ac nid yw’n creu ton flaen.
Mae baw’r dyfrgi (‘spraints’ neu ‘scat’ yn Saesneg) yn ddu ac yn darllyd, ac yn aml yn cynnwys esgyrn pysgod ac amffibiaid, cennau pysgod ac olion anifeiliaid eraill. Pan yn ffres, mae’n arogli’n felys a physgodlyd, tebyg i jasmin. Mae’r baw yn cael ei ddefnyddio i farcio tiriogaeth ac fe’u gwelir yn aml ar foncyffion, creigiau, pontydd, draeniau llifogydd a ffosydd. Hefyd, mae sylwedd tebyg i jeli yn aml yn cael ei osod mewn mannau amlwg.
Mae olion traed y dyfrgi yn fawr (tua 6cm o led) gyda 5 marc bys hirgrwn gyda / heb ôl ewinedd. Gall ei gynffon fawr hefyd gadael ôl ar dir meddal.
Ffwlbart (Mustela putorius)
Mae'r ffwlbart o faint tebyg iawn i’r minc, ond mae ganddo flaenau gwyn i'w glustiau, a gwyn uwchben ei wefus uchaf a'i drwyn gan greu mwgwd gwyn. Mae’n edrych fel bod ganddo fwgwd bandit tywyll ar ei wyneb.
Carlwm & Gwenci
Mae’r wenci a’r carlwm yn llawer llai na minc.
Mae'r wenci yn fach iawn gyda choesau byr a chorff main (17-24cm). Ar y cefn a'r pen mae'r ffwr yn lliw brown castan a’r bol yn lliw gwyn/hufen, ac mae'r rhaniad rhwng y brown a’r hufen yn afreolaidd ac yn fraith. Mae'r gynffon yn fyr (3-6cm) ac yn lliw castan yn unig heb flaen du.
Mae'r carlwm ychydig yn fwy (20-30cm) na'r wenci ac mae ganddo gynffon hirach (7-12cm) gyda blaen du amlwg. Mae ei gefn a’i ben yn lliw brown tywod gyda bol hufen, ac mae'r rhaniad rhwng y ffwr brown a’r hufen yn llinell syth.
A wyddost ti?
Cafwyd hyd i esgyrn minc o fewn baw dyfrgi, ac mae ymchwil yn awgrymu bod nifer y dyfrgwn ar gynnydd tra bod niferoedd y mincod yn gostwng, yn enwedig yn rhannau gorllewinol y DU.