Dyfrgi
Lutra lutra
Mamal lled-ddyfrol mawr yw'r dyfrgi gyda chorff llyfn hir, cynffon silindrog hir pwerus sy’n meinhau, coesau byrion, a thraed gweog mawr. Gallai fesur hyd at tua 1.5m o hyd a phwyso hyd at 12kg. Mae ganddo ben gwastad mawr, ac yn frown gyda gên a gwddf lliw brown golau/hufennog.
Yn y dŵr, mae’r dyfrgi yn nofiwr ystwyth, ac ar dir yn gallu rhedeg yn rhyfeddol o gyflym dros bellteroedd byr. Wrth nofio, dim ond ei ben sydd i’w weld uwchben y dŵr, tra bod minc yn nofio gyda’i ben a’i gefn i’w gweld. Mae dyfrgwn yn creu eu ffeuau eu hunain mewn systemau gwreiddiau coed, tyllau mewn glannau afonydd neu o dan greigiau. Gwalau yw’r enw ar y ffeuau hyn.
Mae dyfrgwn yn bridio trwy'r flwyddyn ac mae’r benywod fel arfer yn geni 2-3 cenau rhwng Mai ac Awst. Mae cenawon newydd-anedig yn mesur tua 12cm o hyd a gallant nofio yn 3 mis oed. Maent yn annibynnol yn 10-12 mis oed ac yn dechrau bridio yn 2 mlwydd oed.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Mae dyfrgwn yn bwyta pysgod (yn enwedig llyswennod), brogaod, cramenogion (fel cimwch yr afon), adar bach ac wyau. Hefyd mamaliaid bach.
Ble a phryd i'w gweld
Cadwch lygad ger afonydd glân, a gwlyptiroedd gyda digon o lystyfiant ar ochr llethrau.
Yn gyffredinol, mae dyfrgwn yn eithaf anodd ei gweld, gyda chynefinoedd eang ac yn dod yn fyw yn y nos (nosol), felly mae'n haws gweld eu holion maes na'r anifeiliaid eu hunain.
Maent yn weithgar ac yn bridio trwy gydol y flwyddyn felly cadwch lygad amdanynt a'u holion maes wrth gerdded ger gwlyptiroedd, afonydd ac arfordiroedd.
!Cymerwch ofal ger dŵr!
Map yn dangos dosbarthiad 10km y dyfrgi yng Nghymru
Statws cyfreithiol
Wedi'i warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981. Rhywogaeth â Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop o dan Atodiad IV o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewropeaidd. Wedi'i restru fel Dan Beth Bygythiad ar Restr Goch yr IUCN fyd-eang o Rywogaethau dan Fygythiad.
Arwyddion Maes
Olion traed
Edrychwch ar ymyl glannau afonydd, mewn graean, tywod, mwd ac eira. Mae ganddyn nhw 5 bysedd traed, ond weithiau dim ond 4 bys sydd i’w gweld mewn olion. Mae'r olion yn fawr ac yn grwn (5-7cm o led, 6-9cm o hyd) ac weithiau gyda marciau ewinedd. Weithiau, gall ei gynffon fawr hefyd gadael ôl ar dir meddal.
Baw
Gwelir baw mewn mannau amlwg fel creigiau, boncyffion, draeniau llifogydd a chynhalwyr pontydd yn agos at ddŵr. Mae’r lliw yn gallu amrywio ond yn aml maent yn wyrdd/ddu-lwyd. Maent yn cynnwys cennau pysgod, esgyrn, cregyn cramenogion, plu neu ffwr. Maent yn arogli'n felys, yn aml yn debyg i groes rhwng te jasmin neu flodau llawryf a physgod ffres. Maent yn grwn ac yn darllyd.
Jeli rhefrol
Sylwedd clir (er y gellir fod â lliw hefyd) tebyg i jeli sy'n arogli'r un peth ac sy'n cael ei ollwng mewn mannau tebyg i le welir baw. Credir mai leinin llysnafedd y perfedd yw’r jeli sy'n amddiffyn y dyfrgi rhag esgyrn pysgod miniog.
Rhywogaethau tebyg
Minc (Neovision vison)
Mae mincod yn famaliaid anfrodorol sydd bellach wedi hen sefydlu ledled y DU. Fe'u cadwyd yn wreiddiol ar ffermydd ffwr nes iddynt ddianc neu gael eu rhyddhau yn fwriadol yn y 1950au. Yn anffodus, mae'n ysglyfaethwr anodd ei drechu ac yn bwydo ar unrhyw beth y gall ei ddal gan gynnwys adar sy'n nythu ar lawr a llygod pengrwn y dŵr.
Mae’n famal bach, llyfn, gyda ffwr ddu-frown tywyll, ac wyneb main tebyg i ffured. Mae ganddo drwyn main, a gên fach wen a gwddf gwyn pigfain nodedig (‘bib’).
Mae baw’r minc (‘spraints’ neu ‘scat’ yn Saesneg) yn dywyll, yn ymddangos yn droellog ac yn bigfain bob pen, ac yn cynnwys ffwr, esgyrn a phlu. Fel rheol mae’r baw yn ddrewllyd dros ben.
Mae olion traed mincod yn aml yn dangos ôl crafangau; yn aml gall yr ewinedd ymuno â phad y troed i greu ôl siâp deigryn.
A wyddost ti?
Mae 13 o rywogaethau dyfrgwn i'w cael ledled y byd, ond dim ond 1 rhywogaeth sy'n frodorol i'r DU.