Llyg y dŵr
Neomys fodiens
Fel y mae ei enw'n awgrymu, mae'r llyg y dŵr yn rhywogaeth rhannol ddyfrol a welir yn agos at ddŵr fel nentydd, pyllau, afonydd, gwelyau cyrs a chorstiroedd. Maen nhw’n nofwyr rhagorol, ac yn aml gellir eu gweld yn nofio o dan y dŵr ac yn plymio i ddyfnder o 30 i 200cm. Wrth nofio, mae eu ffwr yn dal miloedd o swigod aer sy'n gwneud i'r ffwr ymddangos yn loyw ac yn darparu deunydd inswleiddio pwysig.
Llyg y dŵr yw'r mwyaf o'r llygon a geir yn y DU, yn mesur 6 -10cm ynghyd â chynffon o 4-8cm. Mae'n hollol ddu ar yr wyneb uchaf, ac yn wyn/loyw gwelw oddi tano, gyda llinell rannu glir iawn. Yn aml disgrifir y ffwr fel melfedaidd gyda blew byr, trwchus sy'n effeithiol iawn i'w hinswleiddio yn erbyn yr oerfel a'r gwlyb. Er mwyn cadw eu ffwr mewn cyflwr da ac atal gormod o ddŵr yn eu cot, maent yn aml yn trwsio eu hunain trwy lyfu.
Mae ganddyn nhw dwffyn o flew gwyn ar eu clustiau a hefyd o amgylch eu llygaid. Mae’r blew gwyn stiff ar gyrion y traed a rhimyn o flew ar ochr isaf y gynffon yn nodweddiadol iawn. Mae ganddyn nhw drwyn hir, clustiau bach a llygaid llai fyth. Mae gan llygon y dŵr draed ôl cymharol fawr, ond er iddyn nhw dreulio llawer o amser mewn dŵr nid yw eu traed yn weog.
Mae eu dannedd yn aml yn edrych yn goch oherwydd dyddodiad o haearn yn yr enamel ym mlaenau'r dannedd. Credir bod hyn yn helpu i leihau traul. Maent yn byw mewn tyllau ac yn dod allan i fwydo ar infertebratau.
Nid ydynt yn byw yn hir iawn, dim mwy na 19 mis. Maent yn bridio yn ystod misoedd yr haf gan gynhyrchu 2 neu 3 torllwyth yr un gyda 3-15 ifanc mewn nyth wedi'i wehyddu o laswellt sych mewn twll neu o dan foncyff. Eu prif ysglyfaethwyr yw tylluanod gwynion a brych, ac weithiau cudyllod coch, llwynogod a physgod rheibus. Mae gan llygon chwarennau sawr sy'n cynhyrchu sylwedd olewaidd sy’n arogli'n gryf, sy’n annymunol i ysglyfaethwyr fel y gath ddomestig.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Maen nhw’n bwydo ar brae fel berdysyn y nant, chwilod, pryf caddis a larfa; a brogaod, madfallod neu bysgod bach. Byddant hefyd yn cymryd infertebratau y tir fel pryfed genwair a chwilod.
Ble a phryd i'w gweld
Nid yw llygon y dŵr yn gaeafgysgu ac yn brysur trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig gyda'r nos.
Fel arfer i'w weld yn agos at ddŵr fel nentydd, pyllau, afonydd, gwelyau cyrs a chorstiroedd.
Maen nhw’n hoff iawn o welyau berwr y dŵr, ond gellir eu canfod hefyd mewn cynefinoedd i ffwrdd o ddŵr fel glaswelltiroedd, llwyni a gerddi.
Gwrandewch! Mae pob llygon yn gwneud sŵn uchel gwichlyd a elwir yn ‘chwitiol’ (twittering).
Map yn dangos dosbarthiad 10km llyg y dŵr yng Nghymru.
Statws cyfreithiol
Mae llygon y dŵr yn cael eu gwarchod o dan Adran 6 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd).
Arwyddion Maes
Mae eu baw hyd at 10mm o hyd ac yn ddu pan yn wlyb a llwyd golau pan yn sych ac efallai yn cynnwys darnau o gramenogion. Maen nhw’n aml yn cael eu dyddodi ar greigiau ar lan y nant neu fynedfa eu tyllau.
Gwelir eu tyllau yng nglannau nentydd ac afonydd, ac yn mesur tua 20mm ar draws. Gallant ffurfio rhwydweithiau helaeth ar hyd glannau’r dŵr.
Mi all eu sŵn uchel gwichlyd cael ei gamgymryd am griced neu adar felly cofnodwch trwy recordio os gallwch chi.
Rhywogaethau tebyg
Llyg cyffredin (Sorex araneus)
Mae llygon cyffredin yn mesur 48-80mm, gyda ffwr byr tebyg i felfed sydd â thri lliw: brown tywyll ar y top, brown gwelw yn y canol, a lliw gwelw iawn oddi tano. Mae ganddyn nhw lygaid a chlustiau bach iawn a thrwyn pigfain hir. Mae eu cynffon yn llai na 75% o hyd eu corff ac ychydig yn flewog. Gellir eu canfod yn y mwyafrif o gynefinoedd, ond mae'n well ganddyn nhw dir coediog a glaswelltir, ac maen nhw'n effro a phrysur ddydd a nos.
Llyg lleiaf (Sorex minutus)
Y llyg lleiaf yw'r mamal brodorol Prydeinig lleiaf sy'n pwyso dim ond 2.4-6.1g, ac yn mesur 4-6cm gyda chynffon o 32 i 46mm. Gyda phen crwn, mae ganddo ddau liw sef brown llwydaidd ar y top a llwyd / arian gwelw oddi tano, a chynffon sy'n gymesur ac yn flewog (mae'r gynffon yn> 75% o hyd y corff). Nid oes ganddyn nhw fyth dwffyn clust gwyn. Gellir eu canfod yn y mwyafrif o gynefinoedd ac maent yn effro a phrysur ddydd a nos. Maen nhw'n bwyta 125% o bwysau eu corff bob dydd!
A wyddost ti?
Mae llygod pengrwn y dŵr yn llonyddu prae trwy ddefnyddio eu poer gwenwynig sy’n cael ei ryddhau gan rych yn eu dannedd. Mae llyg y dŵr yn gallu taclo prae sydd hyd at 60 gwaith yn drymach nag ef ei hun.
Cymerwch ofal: pe baech yn cael eich brathu gan lyg y dŵr, fe allech hefyd deimlo effeithiau'r gwenwyn, gall brech goch boenus ymddangos gyda’r brathiad.