Sut i gofnodi’r hyn a welsoch
Beth ddylech chi gofnodi?
Dylai cofnod biolegol sylfaenol gynnwys y pedwar pwynt canlynol:
Pwy (enw a manylion cyswllt y person a’i gwelodd)
Beth (beth a welwyd - defnyddiwch yr enw gwyddonol os yn bosibl)
Lle (lle y gwelwyd - bod mor fanwl â phosib, mae cyfeirnod grid neu ledred/hydred yn ddelfrydol)
Pryd (y dyddiad y gwelwyd)
Mae gwybodaeth ychwanegol megis y niferoedd a welwyd, cyfnod y cylch bywyd, dull samplu a chynefin yn ychwanegu gwerth at gofnod biolegol.
Defnyddio SEWBReCORD
Ewch i wefan SEWBReCORD a chreu cyfrif newydd. Cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion, gan gynnwys cyfeiriad e-bost dilys fel bo modd cysylltu â chi os oes cwestiynau yn codi am yr hyn a welsoch.
Ar ôl mewngofnodi, cewch eich arwain i'r dudalen gartref, sy'n dangos cofnodion diweddar. O'r bar dewislenni ar dop y dudalen, dewiswch "Record" ac yna dewis un o'r tri opsiwn, yn dibynnu ar y nifer o gofnodion yr hoffech eu cyflwyno.
Cwblhewch y ffurflen gofnodi, gan lenwi cymaint ag sy'n bosibl.
Ar gyfer un record yn unig, dewiswch “Enter a Casual Record”.
Ap Cofnodi
Mae yna nifer o apiau cofnodi am ddim ar gyfer ffonau symudol, gan gynnwys rhai cyffredinol fel iRecord, a rhai arbenigol ar gyfer cofnodi grwpiau penodol, fel gloÿnnod byw. Mae LERC Cymru (Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru) wedi datblygu eu ap cofnodi eu hunain, a gellir ei lawrlwytho o Apple Store neu Google Play. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am Ap LERC Cymru
Cofnodi ar bapur
Gellir cyflwyno cofnodion trwy'r post hefyd gan ddefnyddio Ffurflen Cofnodi yr hyn a Welwyd. Cliciwch y ddolen isod i lawrlwytho ffurflen: