Tylluan wen
Tyto alba
Gyda’i hwyneb siâp calon, llygaid du, cefn brownfelyn ac adenydd a rhannau isaf gwyn pur, mae'r dylluan wen yn aderyn cefn gwlad arbennig a phoblogaidd iawn.
Yn enwog am hela ar adain dawel, maent yn plymio lawr ar eu prae yn ddirybudd; gydag ymyl meddal ar hyd y tu allan i'w plu hedfan yn distewi sŵn wrth hedfan. Oherwydd eu hadenydd tawel, maent yn gallu gwrando ar siffrwd mamaliaid bach yn y gwair.
Gall y gaeaf fod yn amser gwych o'r flwyddyn i weld tylluanod gwynion, gan eu bod yn aml yn ymestyn eu horiau hela i olau dydd er mwyn darganfod y bwyd ychwanegol sydd ei angen ar gyfer y misoedd oerach.
Beth maen nhw’n ei fwyta
Mae tylluanod gwynion yn bwydo bron yn gyfan gwbl ar famaliaid bach, megis llygod pengrwn y gwair.
Ble a phryd i'w gweld
Gellir gweld tylluanod gwynion trwy gydol y flwyddyn.
Yr adeg orau i weld yr heliwr tawel yma yw pan fo hi'n nosi a gyda’r wawr mewn ardaloedd o laswelltir garw: hoff gynefin y llygoden bengron.
Fel llawer o dylluanod, mae tylluanod gwynion yn ei chael hi'n anoddach i hela mewn amodau gwyntog, felly nosweithiau tawel yw’r adeg gorau i’w gweld.
Cadwch lygaid ar gyrion cysgodol caeau yn nolydd y cloddiau.
Os yw tylluan wen yn hela gerllaw, efallai y byddwch chi'n gallu ei ddenu yn nes trwy greu sŵn gwichian drwy roi cusan ar gefn eich llaw - efallai y daw’r dylluan i fusnesu a gweld beth sy'n gwneud y sŵn.
Peidiwch ag anghofio i wrando hefyd - nid yw tylluanod gwynion yn hwtian; maent yn sgrechian.