Ysgyfarnog
Lepus europaeus
Cyflwynwyd ysgyfarnogod gan y Rhufeiniaid (neu efallai hyd yn oed yn gynharach) o'r Iseldiroedd, a bellach fe’i hystyrir fel anifail naturiol yn y DU. Maent yn edrych yn debyg iawn i gwningen ond yn fwy gyda chlustiau hirach a choesau ôl hirach a mwy pwerus. Mae gan eu clustiau blaenau du nodweddiadol, ac ambr yw lliw eu llygaid. Mae pen uchaf eu cynffonau yn ddu o gymharu â brown yr ysgyfarnog mynydd a gwyn y gwningen. Maent yn mesur 50-70cm o hyd, ac yn pwyso tua 2-5kg. Maent yn byw am 2-4 blynedd.
Nid yw ysgyfarnogod yn defnyddio ffeuau (yn wahanol i gwningod) ac fe'u gwelir yn aml yn gorffwys mewn pantiau hyd at 10cm o ddyfnder, a elwir yn ‘gwâl’. Mae bridio yn digwydd rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf a gall benyw fagu hyd at bedwar torraid y flwyddyn, pob un yn cynnwys 1 i 4 ifanc. Mae'r ifanc (o'r enw lefrod) yn cael eu geni wedi'u gorchuddio â ffwr, â'u llygaid ar agor ac yn cael eu gadael gan y fam mewn gwalau ychydig fetrau o'u man geni. Unwaith y dydd am bedair wythnos gyntaf eu bywydau, mae'r lefrod yn ymgynnull ar fachlud haul i gael eu bwydo gan y fam, ond fel arall nid ydynt yn derbyn unrhyw ofal gan rieni.
Ysgyfarnogod yw'r mamal cyflymaf ar dir ym Mhrydain, gyda chyflymder uchaf o tua 45 milltir yr awr. Cyflymder yw eu prif amddiffyniad rhag ysglyfaethwyr fel llwynogod. Pan fyddant yn rhedeg, maent yn gostwng eu cynffon i lawr er mwyn cuddio’r lliw gwyn ar yr ochr isaf. Maent yn dod yn fyw yn y nos yn bennaf ac yn tueddu i chwilio am fwyd ar ddechrau a diwedd y dydd.
Beth maen nhw'n ei fwyta
Llysysydd yw’r ysgyfarnog sy'n bwyta glaswellt, grawnfwydydd a chnydau amaethyddol eraill, a pherlysiau.
Ble a phryd i'w gweld
Mae ysgyfarnogod yn debygol o’u gweld mewn cynefinoedd tir fferm, yn enwedig lle mae cnydau grawn yn cael eu tyfu. Gellir eu gweld hefyd mewn coedwig a glaswelltir.
Gellir gweld y mamaliaid hyn trwy gydol y flwyddyn rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr ond gan amlaf yn dod yn fyw yn y nos, ac yn gyffredinol yn chwilota am fwyd ar ddechrau a diwedd y dydd.
Map yn dangos dosbarthiad 10km ysgyfarnogod yng Nghymru
Statws cyfreithiol
Wedi'u gwarchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981, a Rhywogaeth â Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU. Fodd bynnag, mae'r ysgyfarnog yn cael ei hystyried yn rhywogaeth hela a gellir ei saethu trwy gydol y flwyddyn. Dyma'r unig rywogaeth hela yn y DU heb dymor caeëdig, pan waherddir hela.
Arwyddion Maes
Baw
Mae baw ysgyfarnog yn fwy (1.5cm-2cm mewn diamedr) ac yn fwy gwastad na baw’r gwningen (<1cm diamedr). Maent yn tueddu i fod yn lliw brown/gwyrdd, yn fwy ffibrog ac yn arogli'n felys (a ddisgrifir fel bisged digestive gwlyb gydag awgrym o wair wedi'i dorri!).
Olion
Mae olion traed yn nodedig yn ôl lleoliad eu traed. Mae eu traed ôl hir yn gyfochrog ac yn aml mae'r traed blaen rhwng y rhai ôl. Maent yn mesur 2.5cm o led, a 3.5cm o hyd.
Rhywogaethau tebyg
Cwningen (Oryctolagus cuniculus)
Cafodd cwningod eu cyflwyno hefyd, ond erbyn hyn fe'u hystyrir fel rhywogaeth naturiol yn y DU. Maent yn frodorol i Sbaen ac fe'u cyflwynwyd i'r wlad hon gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif i ddarparu bwyd a ffwr. Mae gan y mamaliaid hyn glustiau a choesau ôl hir gyda ffwr llwyd/brown, llygaid brown a chynffonau gwyn blewog. Mae cwningod yn llai nag ysgyfarnogod ac nid oes ganddyn nhw blaenau du ar eu clustiau. Yn gyffredinol, mae cwningod yn mesur 40-45cm o hyd ac mae ganddyn nhw glustiau sy'n mesur 8.5cm o hyd.
Gellir eu gweld mewn gerddi, lotments, parciau, rhostiroedd, glaswelltir, dolydd, coedwigoedd a thwyni tywod. Mae cwningod yn adeiladu systemau tyllau daear helaeth o'r enw cwningaroedd. Gall twneli’r cwningar fod yn 1-2 fetr o hyd. Mae'r nyth ar ddiwedd y twnnel yn cael ei orchuddio â glaswellt, mwsogl a ffwr y bola. Maent yn defnyddio llwybrau rheolaidd, ac yn marcio’u tiriogaeth yma â phelenni ysgarthol. Llysysydd yw’r gwningen sy'n bwyta glaswellt, llysiau, bylbiau a rhisgl. Mae cwningod yn tueddu i hopian ymlaen, lle mae ysgyfarnogod yn tueddu i gerdded.
Ysgyfarnog Fynydd (Lepus timidus)
Dyma ysgyfarnog frodorol y DU ac fe’i gwelir yn rhostiroedd yr ucheldiroedd. Mae wedi'i chyfyngu yn bennaf i'r Alban a Gogledd Lloegr, ac yn annhebygol iawn o’i gweld yn ardal Gwastadeddau Gwent.
A wyddost ti?
Os welwch chi ddwy ysgyfarnog yn 'bocsio' mewn cae, mae’n annhebygol mai dau wryw sy’n ymladd. Yn hytrach, mae'n fwy tebygol o fod yn fenyw yn ceisio cadw draw gwryw sy’n ymdrechu i’w denu. Wrth ymladd, bydd y ddwy ysgyfarnog yn sefyll ar eu coesau ôl ac yn anelu ergyd â'u pawennau blaen.